Offerynnau Statudol 2000 Rhif 3121 (Cy. 199 )

      Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000, ISBN 0-11-090150-9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 3121 (Cy. 199 )

COMISIYNYDD PLANT, CYMRU

Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000

  Wedi'u gwneud 23 Tachwedd 2000 
  Yn dod i rym 8 Rhagfyr 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000 a deuant i rym ar 8 Rhagfyr 2000.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "plant perthnasol" ("relevant children") yw unrhyw blant sy'n preswylio yng Nghymru sy'n cael eu dethol at ddibenion penodiad penodol yn y fath fodd  - 

    (a) ag y gellid ei benderfynu gan y pwyllgor perthnasol yn unol â chylch gorchwyl y pwyllgor, neu

    (b) yn absenoldeb penderfyniad o'r fath, ag y mae'n rhaid i'r Prif Ysgrifennydd ei benderfynu;

    ystyr "y Prif Ysgrifennydd" ("the First Secretary") yw'r person a etholir o dro i dro yn Brif Ysgrifennydd y Cynulliad yn unol ag adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3];

    ystyr "pwyllgor perthnasol" ("relevant committee") yw unrhyw bwyllgor y gellid ei sefydlu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dro i dro o dan adran 54(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 er mwyn darparu cyngor a phenderfynu materion sy'n berthnasol i benodi'r Comisiynydd.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Penodi'r Comisiynydd
     2.  - (1) Rhaid i'r Comisiynydd gael ei benodi gan y Prif Ysgrifennydd.

    (2) Dim ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth y bydd y Comisynydd yn cael ei benodi - 

    (3) Yn ddarostyngedig i reoliad 3, saith mlynedd fydd cyfnod swydd y Comisynydd.

    (4) Ni fydd y Comisiynydd yn gymwys i gael ei ailbenodi pan ddaw cyfnod y swydd i ben neu os terfynir hi cyn hynny.

    
3. Gall y Prif Ysgrifennydd ryddhau'r Comisiynydd o'i swydd cyn i gyfnod y swydd ddod i ben - 

     4. Os bydd y Prif Ysgrifennydd yn arfer swyddogaethau a roddir gan y rheoliadau hyn, bydd arfer y swyddogaethau hynny'n cael ei drin fel pe bai'n arfer gan y Cynulliad Cenedlaethol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998


John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol


NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi Comisiynydd Plant Cymru sef swydd a sefydlwyd o dan Ran V o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Yn benodol, mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth i'r penodiad gael ei wneud gan Brif Ysgrifennydd y Cynulliad yn dilyn cyngor gan unrhyw bwyllgor o'r Cynulliad a sefydlwyd er mwyn cynghori ynghylch y penodiad a chyngor, ar ôl i ymgeiswyr gael eu cyfweld gan banel dewis, ynghylch eu priodoldeb i gael eu penodi. Mae'r Prif Ysgrifennydd o dan ddyletswydd hefyd i gymryd i ystyriaeth farn plant sy'n byw yng Nghymru ynghylch y penodiad arfaethedig. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnod y swydd, ac ynghylch yr amgylchiadau y gellir diswyddo'r Comisiynydd o danynt. O ran eglurder ynghylch cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyfer arfer swyddogaethau gan y Prif Ysgrifennydd, mae'r rheoliadau'n cynnwys darpariaeth atodol i ymdrin â swyddogaethau sy'n cael eu harfer felly fel petaent yn swyddogaethau sy'n cael eu harfer gan y Cynulliad.


Notes:

[1] 2000 p.14.back

[2] Sefydlir swydd Comisiynydd Plant Cymru gan adran 72(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090150-9


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 16 January 2001