Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090140 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2000, ac eithrio rheoliadau 4(2)(a)(ii), 4(2)(b), 4(2)(d) a 4(3) a ddeuant i rym ar 1 Ionawr 2001. (2) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 2. Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992[2] yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn. Diwygio rheoliad 19 3. Yn rheoliad 19 (Datganiad Taliadau Deintyddol), ym mharagraff (1), yn lle'r cofnod "Incentive scheme allowances" yng ngholofn (2) o'r Tabl, rhowch "Commitment payments". Diwygio Atodlen 1 4. - (1) Diwygir Atodlen 1 (amodau gwasanaeth ar gyfer deintyddion) fel a ganlyn. (2) Ym mharagraff 25 (cofnodion) -
(ii) ar ôl "any practice record form" mewnosodwch "or form recording recalled attendance in accordance with paragraph 27B";
(b) yn is-baragraff (2) ar ôl "records", mewnosodwch "forms,";
(b) send them to the Dental Practice Board, Health Authority or the National Assembly for Wales within 14 days of being required to do so by one of those bodies."; ac
(ch) yn is-baragraff (4), ar ôl "other than the practice record form" mewnosodwch "and the form recording recalled attendance in accordance with paragraph 27B".
(3) Ar ôl paragraff 27 mewnosodwch. -
27A. - (1) Subject to sub-paragraph (2), where a patient declares that he or she is, or where a person responsible for a patient makes a declaration that the patient is, entitled to exemption from or remission of the charges prescribed by the National Health Service (Dental Charges) Regulations 1989[3] by virtue of either -
(b) entitlement to remission of such charges under regulation 3 or 5 of the National Health Service (Travelling Expenses and Remission of Charges) Regulations 1988[5],
the dentist shall ask the patient, or the person making such a declaration on the patient's behalf, to produce satisfactory evidence in support of the declaration and where such evidence is not produced, the dentist shall record that fact on the form upon which he or she claims remuneration for the treatment of that patient.
(b) obtain the signature on that form of the patient whom he or she has been recalled to treat, or that of a person acting on behalf of the patient."
(4) Ar ôl paragraff 37 mewnosodwch -
(b) identifies the assistant by whom the care and treatment was given and his or her status as an assistant."
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/661) ("Rheoliadau 1992") sy'n rheoli ar ba delerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae Rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1992 fel bod Penderfyniad V yn Nhabl y Penderfyniadau (sy'n cael eu cydgyhoeddi mewn datganiad o'r enw "the Statement of Dental Remuneration") yn ymwneud â'r pwnc "taliadau ymrwymo" ("commitment payments"). Mae Rheoliad 4 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 1992, sy'n cynnwys yr amodau gwasanaeth ar gyfer deintyddion sy'n darparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae'r diwygiadau'n ymwneud â rhwymedigaethau deintydd mewn perthynas â ffurflenni a chofnodion. Mae Rheoliad 4(2) yn diwygio'r amgylchiadau y mae'n rhaid darparu cofnodion i'w harchwilio odanynt. Mae Rheoliad 4(3) yn mewnosod gofyniad newydd i ddeintydd ofyn am gael gweld tystiolaeth sy'n cefnogi honiad fod gan glaf hawl i gael ei esemptio rhag talu ffioedd deintyddol, neu i gael ei ryddhau rhag eu talu, ac i gofnodi ar ffurflen y deintydd ar gyfer hawlio taliad am y driniaeth a ddarparwyd i'r claf hwnnw pan na welir y dystiolaeth honno. Mae Rheoliad 4(3) yn mewnosod gofyniad newydd hefyd sy'n golygu ei bod yn ofynnol i ddeintydd lenwi ffurflen pan fydd ef neu hi yn hawlio taliad ar ôl cael ei alw neu ei galw'n ôl i'r practis deintyddol er mwyn rhoi triniaeth i glaf mewn achos brys y tu allan i oriau arferol y practis. Mae'r deintydd hefyd yn gorfod cael llofnod y claf, neu berson sy'n gyfrifol am y claf, y mae ef neu hi wedi'i alw yn ôl i roi'r driniaeth iddo ar y ffurflen a enwyd. Mae Rheoliad 4(4) yn mewnosod gofyniad i ffurflen hawlio ar wahân gael ei llenwi ar gyfer triniaeth a roddir gan gynorthwywyr. Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) ar gyfer y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 15(1) gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 5(2); gan Ddeddf 1990, adran 12(1) a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 6. Amnewidiwyd adran 35(1) gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 24. Rhifwyd adran 36(1) felly gan Ddeddf 1984, Atodlen 3, paragraff 5(1) ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(10); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), Atodlen 2, paragraff 4; gan Ddeddf 1990, adran 24 a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 25(a). Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2), ac (yn Lloegr) gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 15, 35, 36 a 126(4) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1.back [2] O.S. 1999/661, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [3] O.S. 1989/394, a ddiwygiwyd gan O.S. 1991/581, 1992/369, 1993/419, 1994/530, 1995/444, 1996/389, 1997/558, 1998/490 a 2221, 1999/544 a 2000/977 (Cy.47).back [5] O.S. 1988/551, a ddiwygiwyd gan O.S. 1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 1661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/2417, 1999/767 a 2507 a 2000/2840 (Cy.20).back
ISBN 0 11 090140 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 22 December 2000 |