Offerynnau Statudol 2000 Rhif 3027 (Cy. 195 )

      Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090144-4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 3027 (Cy. 195 )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 9 Tachwedd 2000 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 38(3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    ystyr "blwyddyn ysgol" ("school year") yw'r cyfnod sy'n dechrau adeg y tymor ysgol cyntaf sy'n dechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath sy'n dechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu'n wahanol, mae cyfeiriadau  - 

    (a) at gorff llywodraethu yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig; a

    (b) at bennaeth yn gyfeiriadau at bennaeth ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig.

Cylch gwaith
    
3.  - (1) Yn y rheoliad hwn bydd y term "corff llywodraethu" yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ysgol newydd.

    (2) Wrth arfer eu swyddogaethau, yr egwyddorion a nodir isod yn y rheoliad hwn fydd cylch gwaith y corff llywodraethu.

    (3) Rhaid i'r corff llywodraethu weithredu gydag uniondeb, gwrthrychedd a gonestrwydd ac er lles yr ysgol.

    (4) Rhaid i'r corff llywodraethu fod yn agored yngln â'r penderfyniadau a'r camau y byddant yn eu cymryd ac yn benodol rhaid iddynt fod yn barod i esbonio eu penderfyniadau a'u camau i bersonau sydd â diddordeb.

    (5) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (4) i'w gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu ddatgelu deunydd ynghylch  - 

Dyletswydd i hybu cyfleoedd cyfartal a pherthynas dda
    
4.  - (1) Yn y rheoliad hwn bydd y term "corff llywodraethu" yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ysgol newydd.

    (2) Dyletswydd y corff llywodraethu a'r pennaeth fydd arfer eu priod swyddogaethau gan roi sylw priodol i'r angen  - 

    (3) Ni fydd dim ym mharagraff (2) yn atal y corff llywodraethu na'r pennaeth rhag cymryd y mesurau priodol i gadw cymeriad crefyddol yr ysgol.

    (4) Mae'r rheoliad hwn heb ragfarn i unrhyw ddarpariaeth ddeddfwriaethol sy'n ei gwneud yn ofynnol neu sy'n caniatáu i'r corff llywodraethu neu'r pennaeth weithredu mewn ffordd a fyddai, ar wahân i'r ddarpariaeth honno, yn gyfystyr â gwahaniaethu'n anghyfreithlon.

Rôl y corff llywodraethu
    
5.  - (1) Rhaid i'r corff llywodraethu arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar gyflawni rôl strategol yn fras yng ngwaith rheoli'r ysgol.

    (2) Rhaid i'r corff llywodraethu sefydlu fframwaith strategol i'r ysgol  - 

    (3) Rhaid i'r corff llywodraethu fonitro a gwerthuso cynnydd yn yr ysgol o ran cyrraedd y nodau a'r amcanion a bennwyd a rhaid iddynt adolygu'n rheolaidd y fframwaith strategol ar gyfer yr ysgol yng ngoleuni'r cynnydd hwnnw.

    (4) Wrth arfer y swyddogaethau ym mharagraffau (2) a (3) uchod, rhaid i'r corff llywodraethu - 

    (5) Rhaid i'r corff llywodraethu weithredu fel "cyfaill beirniadol" i'r pennaeth, hynny yw, rhaid iddynt gefnogi'r pennaeth wrth iddo gyflawni swyddogaethau'r swydd a rhoi beirniadaeth adeiladol i'r pennaeth pan fydd angen.

Rôl y pennaeth
    
6.  - (1) Bydd y pennaeth yn gyfrifol am drefniadaeth a rheolaeth fewnol yr ysgol, ac am weithredu'r fframwaith strategol a sefydlwyd gan y corff llywodraethu.

    (2) Rhaid i'r pennaeth gynghori'r corff llywodraethu ar sefydlu ac adolygu'r fframwaith strategol ac yn benodol rhaid iddo lunio:

y gall y corff llywodraethu eu mabwysiadu (gydag addasiadau neu hebddynt) neu eu gwrthod.

    (3) Rhaid i'r pennaeth gyflwyno adroddiad o leiaf unwaith bob blwyddyn ysgol i'r corff llywodraethu ar y cynnydd a wnaed at gyrraedd y nodau a'r amcanion a bennwyd ac yn arbennig at fodloni'r targedau penodol a osodwyd.

Dirprwyo swyddogaethau'r corff llywodraethu
    
7. Wrth benderfynu a ddylid arfer unrhyw bwer i ddirprwyo eu swyddogaethau a sut y dylid gwneud hynny, gan gynnwys y p er cyffredinol yn Rheoliad 41 o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999[3] rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i'r canlynol - 

    (a) y gofyniad yn rheoliad 5 uchod y dylent arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar gyflawni rôl strategol yn fras yng ngwaith rheoli'r ysgol; a

    (b) cyfrifoldeb y pennaeth am drefniadaeth a rheolaeth fewnol yr ysgol.

     8. Rhaid i'r pennaeth gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd rhesymol gan y corff llywodraethu wrth gyflawni unrhyw swyddogaethau a ddirprwyir iddo ef neu iddi hi gan y corff llywodraethu.

Y polisi cwricwlwm ysgol
    
9.  - (1) Rhaid i'r pennaeth lunio polisi ar gyfer cwricwlwm seciwlar yr ysgol ("y polisi cwricwlwm") i'w fabwysiadu gan y corff llywodraethu (gydag addasiadau neu hebddynt).

    (2) Rhaid i'r pennaeth adolygu'r polisi cwricwlwm bob blwyddyn ysgol a llunio newidiadau i'r polisi cwricwlwm i'r corff llywodraethu eu mabwysiadu (gydag addasiadau neu hebddynt).

    (3) Rhaid i'r pennaeth weithredu'r polisi cwricwlwm fel y'i mabwysiadwyd gan y corff llywodraethu.

    (4) Rhaid i'r corff llywodraethu  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
4].


John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gyrff llywodraethu a phenaethiaid ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Maent yn gosod nifer o egwyddorion sydd i weithredu fel cylch gwaith ar gyfer cyrff llywodraethu. Maent yn ymwneud hefyd â rolau a chyfrifoldebau priodol cyrff llywodraethu a phenaethiaid.

Maent yn gosod dyletswydd ar y corff llywodraethu a'r pennaeth i hybu cyfleoedd cyfartal a pherthynas dda rhwng personau o wahanol grwpiau hiliol a gwahanol rywiau (rheoliad 4).

O dan y Rheoliadau mae'r corff llywodraethu i gyflawni eu swyddogaethau gyda golwg ar gyflawni rôl strategol yn fras yn yr ysgol. Fel rhan o'r rôl hon, maent i sefydlu fframwaith strategol ar gyfer yr ysgol gan bennu nodau ac amcanion i'r ysgol a pholisïau a thargedau ar gyfer cyrraedd y nodau a'r amcanion hynny (rheoliad 5).

Y pennaeth sy'n gyfrifol o dan y Rheoliadau am drefniadaeth, goruchwyliaeth a rheolaeth yr ysgol o ddydd i ddydd, am gynghori'r corff llywodraethu ynglyn â'r fframwaith strategol ac am weithredu'r polisïau a fabwysiedir gan y corff llywodraethu (rheoliad 6).

Wrth ddiprwyo swyddogaethau i'r pennaeth, mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu roi sylw i'w rôl sy'n rôl strategol yn fras ac i gyfrifoldebau'r pennaeth fel y'u hamlinellwyd uchod. Rhaid i'r pennaeth, wrth gyflawni'r cyfrifoldebau dirprwyol hynny, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd rhesymol gan y corff llywodraethu (rheoliadau 7 ac 8).

Mae'r Rheoliadau yn rhoi swyddogaethau penodol i'r corff llywodraethu a'r pennaeth mewn perthynas â pharatoi polisi ar gyfer cwricwlwm yr ysgol (rheoliad 9).


Notes:

[1] 1998 p.31; ar gyfer ystyr "regulations" gweler adran 142(1).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/2242 (Cy.2).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090144-4


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 10 January 2001