Offerynnau Statudol 2000 Rhif 3026 (Cy. 194 )

      Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090136-3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 3026 (Cy. 194 )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 9 Tachwedd 2000 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 66(8) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001.

Diwygio
    
2. Yn rheoliad 3(2)(c) o Reoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) 1999[3] (cyflawni dyletswyddau'r corff llywodraethu), yn gymaint â'i fod yn ymwneud â Chymru, rhoddir "50" yn lle "30".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]).


John Marek
Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) 1999 mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Os byddai disgybl mewn ysgol o'r fath, yn sgil gwaharddiad, yn cael ei wahardd am gyfnod penodedig o fwy na phump ond heb fod yn fwy na 15 diwrnod ysgol o ran cyfanswm mewn unrhyw un tymor, mae Rheoliad 2 yn darparu bod rhaid fel rheol i'r corff llywodraethu gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt yn adran 66(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 heb fod yn hwyrach na 50 diwrnod ysgol ar ôl cael hysbysiad o'r gwaharddiad (yn hytrach na 30 diwrnod ysgol fel o'r blaen).


Notes:

[1] 1998 p.31.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/1868.back

[4] 1998 p.38.back


English version




ISBN 0-11-090136-3


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 5 December 2000