Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090137 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adran 31 o Ddeddf Iechyd 1999[2] a phob p er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3]: - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2000. (2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.
(2) Yr awdurdodau lleol a ragnodir at ddibenion adran 31 o'r Ddeddf yw -
(b) cyngor bwrdeistref sirol.
Trefniadau partneriaeth rhwng cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol
(b) unrhyw swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd,
os yw'r trefniadau partneriaeth yn debyg o arwain at wella'r ffordd y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer.
(ii) o dan adran 5(1), (1A) ac 1(B) o Ddeddf 1977[8], ac Atodlen 1 iddi; a
(b) y swyddogaethau o dan adrannau 25A i 25H a 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983[9].
Swyddogaethau'r awdurdodau lleol sy'n gysylltiedig ag iechyd
(ii) adrannau 6 a 7B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol 1970; (iii) adrannau 1 a 2 o Ddeddf Mabwysiadu 1976[12]; (iv) adrannau 114 a 115 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983; (v) Deddf Cartrefi Cofrestredig 1984[13]); a (vi) Rhannau VII i X ac adran 86 o Ddeddf Plant 1989[14];
(b) y swyddogaethau o dan adrannau 5, 7 neu 8 o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986[15]) ac eithrio i'r graddau y maent yn dyrannu swyddogaethau i awdurdod lleol yn rhinwedd eu swydd fel awdurdod addysg lleol;
Trefniadau cyd-gronfa
(b) y cyfraniadau sydd i'w gwneud gan bob un o'r partneriaid i'r gyd-gronfa a sut y gall y cyfraniadau hyn gael eu hamrywio; (c) y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n destun y trefniadau; (ch) y personau a'r math o wasanaethau y gellir arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) mewn perthynas â hwy; (d) y staff, y nwyddau, y gwasanaethau neu'r llety sydd i'w darparu gan y partneriaid mewn cysylltiad â'r trefniadau; (dd) am faint y bydd y trefniadau yn parhau, a'r ddarpariaeth ar gyfer adolygu'r trefniadau, eu hamrywio neu eu terfynu; ac (e) sut mae'r gyd-gronfa i gael ei rheoli a'i monitro, gan gynnwys pa bartner fydd y partner lletyol yn unol â pharagraff (4).
(4) Rhaid i'r partneriaid gytuno y bydd un ohonynt ("y partner lletyol") yn gyfrifol am y cyfrifon ac am yr archwilio ar gyfer trefniadau'r gyd-gronfa a rhaid i'r partner lletyol benodi un o'i swyddogion ("rheolydd y gyd-gronfa") i fod yn gyfrifol am y canlynol -
(b) cyflwyno adroddiadau chwarterol i'r partneriaid, ynghyd ag adroddiad blynyddol, ynghylch incwm a gwariant y gyd-gronfa a gwybodaeth arall y gall y partneriaid ei defnyddio i fonitro effeithiolrwydd trefniadau'r gyd-gronfa.
(5) Caiff y partneriaid gytuno y caiff un o swyddogion y naill bartner neu'r llall arfer y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n destun trefniadau'r gyd-gronfa.
(b) y taliadau sydd i'w gwneud gan yr awdurdodau lleol i'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sut y gall y taliadau hyn gael eu hamrywio; (c) y swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd a swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol y mae eu cyflawni yn destun y trefniadau; (ch) y personau a'r math o wasanaethau y gellir arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) mewn perthynas â hwy; (d) y staff, y nwyddau, y gwasanaethau neu'r llety sydd i'w darparu gan y partneriaid mewn cysylltiad â'r trefniadau; (dd) am faint y bydd y trefniadau yn parhau, a'r ddarpariaeth ar gyfer adolygu'r trefniadau, eu hamrywio neu eu terfynu; ac (e) y trefniadau sydd ar gael i fonitro sut mae'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c).
(3) Rhaid i'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol gyflwyno adroddiadau i'r awdurdodau lleol, bob chwarter a phob blwyddyn, ynghylch arfer y swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n destun y trefniadau.
(b) y taliadau sydd i'w gwneud gan y cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol i'r awdurdodau lleol a sut y gall y taliadau hyn gael eu hamrywio; (c) y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol y mae eu harfer yn destun y trefniadau; (ch) y personau a'r math o wasanaethau y gellir arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) mewn perthynas â hwy; (d) y staff, y nwyddau, y gwasanaethau neu'r llety sydd i'w darparu gan y partneriaid mewn cysylltiad â'r trefniadau; (dd) am faint y bydd y trefniadau yn parhau, a'r ddarpariaeth ar gyfer adolygu'r trefniadau, eu hamrywio neu eu terfynu; ac (e) y trefniadau sydd ar gael i fonitro sut mae'r awdurdodau lleol yn arfer y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c).
(4) Rhaid i'r awdurdodau lleol gyflwyno adroddiadau i'r cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol, bob chwarter a phob blwyddyn, ynghylch arfer y swyddogaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n destun y trefniadau. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i gyrff penodol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol penodol wneud trefniadau ("trefniadau partneriaeth") ynghylch arfer swyddogaethau penodedig. Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi'r cyrff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r awdurdodau lleol ("y partneriaid") sy'n cael gwneud y trefniadau. Mae Rheoliad 4 yn nodi'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn bod y partneriaid yn cael gwneud y trefniadau partneriaeth. Yn Rheoliadau 5 a 6 rhagnodir pa rai o swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac o swyddogaethau'r awdurdod lleol sy'n gysylltiedig ag iechyd a all fod yn destun trefniadau partneriaeth. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diffinio natur y trefniadau partneriaeth. Maent yn darparu ar gyfer sefydlu cronfa a gaiff eu ffurfio o gyfraniadau gan y partneriaid. Gellir gwneud taliadau o'r gronfa tuag at wariant a dynnir wrth i'r partneriaid arfer eu swyddoaethau'r; er mwyn i gyrff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol arfer swyddogaethau'r awdurdodau lleol ac i'r awdurdodau lleol arfer swyddogaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Maent yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i'r partneriaid nodi telerau'r trefniadau mewn ysgrifen (rheoliadau 7, 8 a 9). Mae Rheoliad 10 yn gwneud darpariaethau atodol. Notes: [1] 1977 p. 49; mae adran 126(4) yn gymwys yn rhinwedd adran 62(4) o Ddeddf Iechyd 1999 ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999, Atodlen 4, paragraff 37(5).back [2] 1999 p. 8; gweler adran 31(8) ar gyfer y diffiniad o "prescribed".back [3] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, OS 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(4) a (5) o Ddeddf 1999.back [5] Gweler adran 8 o Ddeddf y Gwasnaeth Iechyd Gwladol 1977 fel y'i diwygiwyd gan adran 1(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) a pharagraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Iechyd 1999.back [6] Gweler adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 fel y'i diwygiwyd gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 ac adran 13(1) o Ddeddf Iechyd 1999.back [7] Gweler BS EN 60825-1: Safety Laser Products. Diffinnir cynhyrchion laser dosbarth 4 drwy gyfeirio at 'British Standards' sy'n cael ei gyhoeddi gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ("BSI") a gellir ei gael oddi wrth BSI, Linford Woods, Milton Keynes, MK14 6LT.back [8] Diwygiwyd adran 5(1) gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 10(1), a mewnosodwyd adran 5(1A) ac (1B) ganddi; diwygiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Addysg 1981 (p.60), Atodlen 3, paragraff 13; Deddf Diwygio Addysg 1988 (p.40) Atodlen 12, Rhan 1, paragraff 21, a Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988, Atodlen 2, paragraff 7.back [10] 1970 (p.42); diwygiwyd Atodlen 1 (drwy ddiddymu, amnewid neu fewnosod eitemau) gan y canlynol: adran 78 o Ddeddf Elusennau 1992 (p.42) ac Atodlen 7 iddi; adran 78 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p.22) ac Atodlenni 2 a 3 iddi; Deddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1978 (p.45); Deddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1993 (p.50); adran 73(3) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 (p.36) ac Atodlen 4 iddi; adran 57 o Ddeddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p.32) ac Atodlen 5 iddi; adran 148 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20) ac Atodlen 4 iddi; adran 108(5) o Ddeddf Plant 1989 (p.41) ac Atodlenni 13 a 15 iddi; adran 89(2) o Ddeddf Achosion Domestig a Llysoedd Ynadon 1978 (p.22) ac Atodlenni 2 a 3 iddi; adran 54 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 (p.18) ac Atodlenni 2 a 3 iddi; adran 35(2) a (3) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) ac Atodlenni 7 ac 8 iddi; adran 129 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) ac Atodlen 16 iddi; adran 66(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ac Atodlen 9 iddi; adran 20(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) ac Atodlen 4 iddi; adrannau 3 a 4 o Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p.71) ac Atodlenni 1 a 2 iddi; adran 57 o Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984 (p. 23) ac Atodlen 1 iddi; adran 216(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) ac Atodlen 17 iddi; adran 582(1) a (2) o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) ac Atodlenni 37 a 38 iddi; adran 1(7) o Ddeddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 (p.12); adran 3(1) a (3) o Ddeddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996 (p.30); ac adran 15 (1) o Ddeddf Mabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 (p.18) ac Atodlen 2 iddi.back [15] 1986 p.33; gweler Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdodau Lleol (Dynodi Swyddogaethau) 1989 (OS 1989/222).back
ISBN 0 11 090137 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 15 December 2000 |