Gorchymyn Deddf Iechyd 1999(Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Iechyd 1999(Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090143-6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 63(1), 66(2) a 67(1) a (2) o Ddeddf Iechyd 1999[1]: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2000. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Darpariaethau'r Ddeddf sy'n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2000. Adran 26 (Cydweithredu rhwng cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol) (ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol) Adran 27 (Cydweithredu rhwng cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol) (ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (1A) o adran 22 Deddf 1977 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol) Adran 29(2)(a) a (3) ac adran 29(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â hi (Taliadau gan gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i awdurdodau lleol) (ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (2B) o adran 28A o Ddeddf 1977 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol) Adran 30 (Taliadau gan awdurdodau lleol i gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol) (ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (2) o adran 28BB o Ddeddf 1977 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol) Adran 31 (Trefniadau rhwng cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol) (ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol) Adran 65(1) (Diwygiadau i ddeddfiadau) (i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a bennir isod) Atodlen 4 - Is-baragraffau (2) a (4)(b) o baragraff 14, a pharagraffau 4 a 14(1) (i'r graddau y maent yn ymwneud â hwy) Is-baragraffau (3) a (4)(a) ac (e) o baragraff 14 (i'r graddau y maent yn ymwneud â thaliadau sy'n cael eu gwneud o dan adran 28A(2A) o Ddeddf 1977), a pharagraffau 4 a 14(1) (i'r graddau y maent yn ymwneud â hwy) Adran 32 (Cyd-bwyllgorau Ymgynghorol) Adran 65(1) (Diwygio deddfiadau)(i'r graddau y maent yn ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a bennir isod) Atodlen 4 - Paragraff 14 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym), a pharagraff 4 (i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraff hwnnw) Paragraff 72 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau pellach Deddf Iechyd 1999 i rym mewn perthynas â Chymru. Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cychwyn darpariaethau sy'n darparu ar gyfer partneriaeth rhwng cyrff NHS ac Awdurdodau Lleol gan gynnwys taliadau rhwng cyrff NHS ac Awdurdodau Lleol a'r trefniadau rhyngddynt. Mae darpariaeth hefyd ar gyfer cychwyn diddymiadau sy'n ymwneud â Chyd-bwyllgorau Ymgynghorol a Deddf Cyd-bwyllgorau Ymgynghorol y Gwasanaeth Iechyd (Cael Gweld Gwybodaeth) 1986. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Daethpwyd â darpariaethau canlynol Deddf Iechyd 1999 i rym mewn perthynas â Chymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn (gan gynnwys darpariaethau y daethpwyd â hwy i rym mewn perthynas â Chymru a Lloegr). Yn ogystal â'r darpariaethau a restrir isod, daethpwyd ag amryw ddarpariaethau eraill i rym mewn perthynas â Lloegr drwy orchmynion cychwyn O.S. 1999/2177, 2342, 2540 a 2793 a 2000/779 a 1041 ac mewn perthynas â'r Alban drwy orchymyn cychwyn O.S.A. 1999/90 a 115 a 2000/38 .
Notes: [1] 1999 p.8. Mae p er yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 67(1) i wneud gorchmynion cychwyn ar gyfer adrannau penodol o'r Ddeddf, (gan gynnwys y rheini sy'n ymddangos yn yr atodlenni i'r gorchymyn hwn), yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, yn unol ag adran 66(2), gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
ISBN 0-11-090143-6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 10 January 2001 |