Rheoliadau'r Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090148-7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y p er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990[1] , sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad mewn perthynas â Chymru [2]:Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 6 Tachwedd 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn,
Diddymu
(b) mewn unrhyw achos lle gwnaed cais am grant i asiantaeth ardal (o fewn ystyr y Rheoliadau hynny) cyn 6 Tachwedd 2000.
Pwerau'r Cynulliad
(b) polisi a blaenoriaethau cyfredol y Cynulliad mewn perthynas ag arbed ynni.
Personau a all wneud cais am grant
(b) yn cael budd-dâl, neu yn byw gyda phriod sy'n cael budd-dâl y mae paragraff (4) yn gymwys iddo.
(2) Gellir ystyried cais am grant o dan HEES a Mwy mewn perthynas ag annedd oddi wrth berson sy'n ddeiliad yr annedd ac sy'n meddiannu'r annedd fel ei unig neu ei brif breswylfa ac sydd, adeg gwneud y cais,
(b) yn cael budd-dâl, neu yn byw gyda phriod sy'n cael budd-dâl y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, ac wedi cyrraedd, neu yn byw gyda phriod sydd wedi cyrraedd, 60 mlwydd oed; neu (c) yn rhiant unigol sy'n cael budd-dâl y mae paragraff (3) yn gymwys iddo; neu (ch) yn cael budd-dâl plant, neu yn byw gyda phriod sy'n cael budd-dâl plant (o dan adran 141 o Ddeddf 1992) mewn perthynas â phlentyn sydd o dan 16 mlwydd oed ac y mae budd-dâl y mae paragraff (5) yn gymwys iddo yn cael ei dalu i'r plentyn hwnnw neu mewn perthynas â'r plentyn hwnnw.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fudd-dâl y dreth gyngor, budd-dâl tai a chymhorthdal incwm (bob un fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan VII o Ddeddf 1992) a lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm (o fewn ystyr Deddf Ceisio Gwaith 1995 [6]).
(b) lwfans gweini, sef -
(ii) cynnydd mewn lwfans sy'n daladwy mewn perthynas â gweini cyson o dan gynllun o dan baragraff 4 o Ran I o Atodlen 8 i Ddeddf 1992[8] neu sydd ag effaith o dani; neu (iii) taliad a wneir o dan erthygl 14, 15, 16, 43 neu 44 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifilwyr) 1983[9]) neu unrhyw daliad cyfatebol; neu (iv) unrhyw daliad sydd wedi'i seilio ar yr angen i weini sy'n cael ei dalu gyda phensiwn anabledd rhyfel; neu (v) unrhyw daliad y bwriedir iddo dalu iawn am beidio â thalu taliad, lwfans neu bensiwn a grybwyllir yn unrhyw un o is-baragraffau (i) i (iv) yn y diffiniad hwn;
(c) lwfans byw i'r anabl (o dan adran 71 o Ddeddf 1992);
(ii) ataliad o dan reoliadau a wneir o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 8 i Ddeddf 1992 (lwfans gweini cyson);
(d) budd-dâl y dreth gyngor, budd-dâl tai a chymhorthdal incwm (ym mhob achos os yw'r taliad yn cynnwys premiwm anabledd fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliadau Budd-dâl y Dreth Gyngor (Cyffredinol) 1992[15]), Rheoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987[16] a Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987[17]) yn y drefn honno) a budd-dâl anabledd anafiadau diwydiannol o dan adrannau 103 i 105 o Ddeddf 1992 (os yw'n cynnwys lwfans gweini cyson).
(6) Gellir ystyried cais am grant rhannol oddi wrth berson sydd wedi cyrraedd, neu sy'n byw gyda phriod sydd wedi cyrraedd, trigain mlwydd oed ac sy'n meddiannu'r annedd fel ei unig neu ei brif breswylfa ac sydd naill ai yn berchen ar y rhydd-ddaliad arni neu y mae ganddo fuddiant prydlesol ynddi nad yw'n llai nag 21 mlynedd.
r neu wraig;
(b) tenantiaeth statudol o dan Ddeddf Rhenti 1977[19]; (c) tenantiaeth ddiogel o dan Ran IV o Ddeddf Tai 1985[20] neu denantiaeth ragarweiniol o dan Bennod I o Ran V o Ddeddf Tai 1996 [21]); (ch) trwydded i feddiannu sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff 12(a) a (b) o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1985[22]; neu (d) meddiannaeth amaethyddol sicr o dan Ran I o Ddeddf Tai 1988[23]).
Y dibenion y gellir cymeradwyo grant ar eu cyfer
r oer ac unrhyw bibellau cyflenwi d r, pibellau gorlifo a phibellau ehangu mewn gwagle o'r fath;(b) darparu inswleiddiad rhwng dalennau mewnol ac allanol waliau dwbl yr annedd; (c) darparu defnydd gwrth-ddrafft i'r annedd neu ynddi ynghyd ag unrhyw gyfrwng awyru ychwanegol ar gyfer unrhyw ystafelloedd na fyddent fel arall yn cael eu hawyru'n ddigonol ar ôl darpariaeth o'r fath; (ch) darparu inwswleiddiad i unrhyw system gwresogi d r neu ddarparu unrhyw ran o system o'r fath gan ymgorffori'r inswleiddiad ynddi;(d) darparu gwresogyddion ystafell sy'n wresogyddion darfudol nwy â rheolaeth thermostat; (dd) darparu stôr-wresogyddion trydan; (e) darparu rheolyddion amseru ar gyfer gwresogyddion aer a gwresogyddion d r trydan;(f) gwella effeithlonrwydd ynni unrhyw system gwresogi aer neu dd r a osodwyd yn yr annedd neu amnewid unrhyw ran ohoni neu ei thrwsio;(ff) darparu system wresogi ganolog nwy neu olew; (g) trosi tanau tanwydd solet agored mewn ystafelloedd i danau tanwydd solet caeëdig mewn ystafeloedd; (ng) darparu system wres ganolog sy'n gysylltiedig â'r grid gwres cymunedol lleol.
(2) Pan gymeradwyir cais gweithfeydd at un neu ragor o'r dibenion a nodir ym mharagraff (1), gellir cymeradwyo grant hefyd er mwyn darparu unrhyw un o'r canlynol -
(b) lampau ynni-effeithlon.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "gwagle to" ("roof space") yw gwagle rhwng to annedd a nenfwd unrhyw ystafell a ddefnyddir er mwyn cael lle i fyw neu sydd ar gael at y diben hwnnw, ac nad yw'r gwagle hwnnw wedi'i wahanu'n llwyr o'r to gan unrhyw ystafell arall;
(b) uchafswm y grant o dan HEES neu HEES a Mwy fel y'i pennir o dro i dro gan y Cynulliad yn unol â'r canlynol -
(ii) polisi a blaenoriaethau cyfredol y Cynulliad mewn perthynas ag arbed ynni.
(2) Caiff y Cynulliad bennu uchafsymiau gwahanol o dan baragraff (1) ar gyfer grantiau mewn perthynas ag anheddau mewn aml-feddiannaeth.
(b) sail ar gyfer cyfrifo'r grant, a fynegir yn nhermau symiau am bob uned fesur,
ar gyfer unrhyw gategori neu gyfuniad o gategorïau gweithfeydd a gynhwysir yn y Cynllun HEES neu'r Cynllun HEES a Mwy.
(b) datganiad ynghylch y meini prawf cymhwyster a nodir yn rheoliad 5 sy'n cael eu bodloni gan y ceisydd; ac os yw'r ceisydd yn denant, enw a chyfeiriad y landlord. (c) datganiad y rhoddir mynediad rhesymol i'r annedd y mae cais yn cael ei wneud mewn perthynas â hi i gynrychiolydd yr asiantaeth ardal archwilio'r annedd a'r gweithfeydd;
ac
yr y ceisydd, unrhyw berson arall wedi cael grant na chymorth o dan y Rheoliadau hyn, nac wedi gwneud cais amdanynt, mewn perthynas â'r annedd sy'n destun y cais.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (fel y'i diwygiwyd gan Adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996) yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael gwneud, neu drefnu gwneud, grantiau tuag at gost gwaith neu gyngor i wella inswleiddiad thermol neu i leihau neu atal gwastraff ynni fel arall mewn anheddau. Mae p er yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon yn arferadwy bellach gan y Cynulliad mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r cynlluniau ar gyfer darparu grantiau at y dibenion a nodir yn Adran 15(1) o Ddeddf 1990 (fel y'i diwygiwyd) . Mae'r Rheoliadau yn ymdrin â phwy sy'n gymwys i gael grant, gallu'r Cynulliad i benderfynu ar gategorïau gweithfeydd ac uchafswm y lefelau grantiau sydd ar gael, at ba ddibenion y gellir cymeradwyo grantiau a dull gwneud cais am grant. DS Darparodd Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000 ("Rheoliadau (Diwygio) 2000") uchafsymiau newydd ar gyfer dyfarnu grant o dan y Cynllun blaenorol, a nodwyd yn Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref 1997 ("Rheoliadau 1997"). Mae Rheoliadau 1997 a Rheoliadau (Diwygio) 2000 wedi'u diddymu fel y nodir yn y Rheoliadau hyn. Notes: [1] 1990 (p.27); diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back [5] OS 2000/1039 (Cy. 68).back [7] Diwygiwyd Rhan VII o Ddeddf 1992 gan Ddeddf Credydau Treth 1999 (p.10).back [8] Gweler adran 5 o Ddeddf Anafiadau a Chlefydau Diwydiannol (Hen Achosion) 1975 (p.16) a ddiddymwyd, gydag eithriadau, gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Canlyniadol) 1992 (p.6).back [10] OS 1983/883; diwygiwyd erthygl 10 gan Ddeddf Credydau Treth 1999.back [11] Diwygiwyd Rhian VII o Ddeddf 1992.back [13] OS 1983/833; ychwanegwyd erthygl 26A gan OS 1983/1116 a'i diwygio gan OS 1983/1521, 1986/592, 1990/1308, 1991/766, 1992/710, 1995/766 a 1997/766.back [14] OS 1983/686; ychwanegwyd erthygl 25A gan OS 1983/1164 a'i diwygio gan OS 1983/1540, 1986/628, 1990/1300, 1991/708, 1992/702 a 1995/455.back [22] 1985 (p.68); amnewidiwyd paragraff 12 gan baragraff 12 o Atodlen 6 i Ddeddf Elusennau 1992 (p.41).back
ISBN 0-11-090148-7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 10 January 2001 |