Offerynnau Statudol 2000 Rhif 2948 (Cy. 189 ) (C. 86 )

      Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090139 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 2948 (Cy. 189 ) (C. 86 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 31 Hydref 2000 
  Yn dod i rym 1 Tachwedd 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1].

Enwi a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2000.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.

Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Tachwedd 2000
    
2. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Tachwedd 2000 -

    adran 3(3), (4), (5), (6) a (7) (terfynau ar bwerau i hybu llesiant)

    adran 4(3)(b), (4) a (5) (strategaethau i hybu llesiant)

    adran 5(5) (p er i ddiwygio neu ddiddymu deddfiadau)

    adran 6(6) (p er i addasu deddfiadau ynghylch cynlluniau etc.)

    adran 7 (p er i addasu deddfiadau ynghylch cynlluniau etc: Cymru)

    adran 11(5), (6) a (9) (gweithrediaethau llywodraeth leol)

    adran 12(1) (mathau ychwanegol o weithrediaeth)

    adran 13(3), (5), (6), (12), (13) a (14) (swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb gweithrediaeth)

    adran 17 (cyflawni swyddogaethau: a. 11(5) gweithrediaeth)

    adran 18 (cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau ardal)

    adran 19 (cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol arall a chan un arall)

    adran 20 (arfer swyddogaethau ar y cyd)

    adran 22(6), (7), (8), (9), (10), (11), (12) a (13) (cael gweld gwybodaeth etc.)

    adran 23 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 8(4), (5), ac (8), 9(4), (5) a (6), 10 ac 11 o Atodlen 1 (darpariaeth bellach)

    adran 25(5), (6), a (8) (cynigion)

    adran 27(9) a (10) (refferendwm yn achos cynigion sy'n ymwneud â maer etholedig)

    adran 28(1) a (2) (cymeradwyo cynigion wrth gefn amlinellol)

    adran 30 (defnyddio gwahanol drefniadau gweithredol)

    adran 31(1)(b) (trefniadau amgen yn achos awdurdodau lleol penodol)

    adran 32 (trefniadau amgen)

    adran 33(5), (6), (7), (8), (9), (10) a (11) (defnyddio trefniadau amgen)

    adran 34 (refferendwm yn dilyn deiseb)

    adran 35 (refferendwm yn dilyn cyfarwyddyd)

    adran 36 (refferendwm yn dilyn gorchymyn)

    adran 37(1)(a) (cyfansoddiad awdurdod lleol)

    adran 38 (canllawiau)

    adran 39(1), (3), (4) a (5) (meiri etholedig etc.)

    adran 41 (amser etholiadau etc.)

    adran 44 (pwer i wneud darpariaeth ynghylch etholiadau)

    adran 45(5), (6), (7), (8) a (9) (darpariaethau ynglyn â refferenda)

    adran 47 (pwer i wneud darpariaeth achlysurol, canlyniadol etc.)

    adran 48 (dehongli Rhan II)

    adran 49(2), (5), (6)(a), (b), (f), (l), (m) a (p) a (7) (egwyddorion sy'n llywodraethu ymddygiad aelodau o awdurdodau perthnasol)

    adran 50(2), (3), (4), (5), (6) a (7) (cod ymddygiad enghreifftiol)

    adran 53(11) a (12) (pwyllgorau safonau)

    adran 54(5) a (7) (swyddogaethau pwyllgorau safonau)

    adran 68(3), (4) a (5) (Comisynydd Lleol a'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru)

    adran 70(1) a (2) (ymchwiliadau: darpariaethau pellach)

    adran 73(1), (2), (3), (4), (5) a (6) (materion a gyfeirir at swyddogion monitro)

    adran 75(2), (5), (6) a (8) (panelau dyfarnu)

    adran 76(13) (tribiwnlysoedd achosion a thribiwnlysoedd achosion interim)

    adran 77(4) a (6) (dyfarniadau)

    adran 81(5) a (8) (datgelu a chofrestr buddiannau aelodau etc.)

    adran 82(2), (3), (6), (8) a (9) (cod ymddygiad ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol)

    adran 83(1), (2), (3), (5), (6), (7), (8), (9), (10), (11), (13) a (14) (dehongli Rhan III)

    adran 100 (p er i wneud darpariaeth ynghylch lwfansau)

    adran 101(2), (3), (4) a (5) (indemnio aelodau a swyddogion awdurdodau perthnasol)



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Hydref 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Tachwedd 2000. Mae'r darpariaethau hynny yn rhoi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, mewn un achos (adran 44), i'r Ysgrifennydd Gwladol.

Mae'r darpariaethau'n ymwneud â gwaith yr awdurdodau lleol i hybu llesiant economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol eu hardaloedd, trefniadau awdurdod lleol ar gyfer creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod hwnnw ac ymddygiad aelodau a gweithwyr cyflogedig awdurdodau lleol.

Mae adran 108(6) o'r Ddeddf yn rhoi p er i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddod â'r darpariaethau hyn i rym mewn perthynas â Chymru cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf sef yr amser a benodwyd gan adran 108(4) o'r Ddeddf. Pasiwyd y Ddeddf ar 28 Gorffennaf 2000.


Notes:

[1] 2000 p.22back

[2] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 090139 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 22 December 2000