Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090133-9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(6A) a (6B) a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1] ac adrannau 15 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[2] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3]. Enwi, cychwyn, cymhwyso a diddymu 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2000 (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. (3) Mae rheoliad 10A o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1993[4]) a rheoliad 3(4) o Reoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) 1998[5] wedi'u diddymu. Dehongli 2. - (1) Ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn -
(b) ystyr "addysg uwch" ("higher education") yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988; (c) ystyr "gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc" ("worker with children or young persons") yw person a gyflogir -
(ii) gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad sy'n dod o fewn adran 218(10) neu (11) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[7];
mewn gwaith, heblaw fel athro neu athrawes, sy'n dod â'r person hwnnw i gyswllt yn rheolaidd â phersonau ifanc sydd heb gyrraedd 19 mlwydd oed.
(ii) yn sefydliad yn y sector addysg bellach (o fewn ystyr adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[8]);
(d) ystyr "ysgol" ("school") yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, neu ysgol arbennig[9] nad yw'n cael ei chynnal felly.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gyflogaeth berthnasol yn gyfeiriad at gyflogaeth -
(b) gan unrhyw gorff arall, fel athro neu athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach; (c) gan gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc; (ch) gan berchennog ysgol annibynnol, fel athro neu athrawes neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc; a (d) mewn ysgol annibynnol, fel athro neu athrawes neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyflogaeth yn cynnwys ymglymu person i ddarparu ei wasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth a dehonglir cyfeiriadau at gyflogaeth neu gyflogaeth berthnasol yn unol â hynny.
(ii) a fyddai'n dod â'r person hwnnw a fyddai'n eu darparu i gyswllt yn rheolaidd â phersonau sydd heb gyrraedd 19 mlwydd oed.
(3) Mae paragraff (2) ond yn gymwys mewn perthynas â pherson y mae ei gyflogaeth neu ei gyflogaeth bellach wedi'i chyfyngu (o'i gyferbynnu â'i gwahardd) os y byddai caniatáu i'r person ddarparu'r gwasanaethau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw, pe bai'n cael ei gyflogi gan gorff llywodraethu o'r fath neu awdurdod addysg lleol neu gan berchennog ysgol annibynnol mewn cyflogaeth berthnasol, yn groes i delerau'r cyfyngiad.
(b) wedi ymddiswyddo o dan amgylchiadau y byddai cyflogydd y person wedi'i ddiswyddo neu wedi ystyried ei ddiswyddo o danynt ar y sail honno pe na bai wedi ymddiswyddo,
rhaid i'r cyflogydd gyflwyno adroddiad am ffeithiau'r achos a rhoi unrhyw wybodaeth bellach am yr amgylchiadau a arweiniodd at y diswyddo neu'r ymddiswyddo, ac sydd ym meddiant neu o dan reolaeth y cyflogydd, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r rhai y mae eu cyflogaeth fel athro neu athrawes, neu fel gweithiwr gyda phlant neu bersonau ifanc, wedi'i gwahardd neu wedi'i chyfyngu o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Maent yn gwneud darpariaeth hefyd sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr athrawon ac athrawesau gyflwyno adroddiad ar gamymddygiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae rheoliad 1 yn diddymu rheoliad 10A o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1993 a rheoliad 3(4) o Reoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) 1998. Mae Rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach, i'r awdurdod addysg lleol ar gyfer yr ysgol honno neu'r sefydliad hwnnw, ac i berchennog ysgol annibynnol, gymryd camau rhesymol ymarferol i atal person y gwaherddir ei gyflogi, neu y cyfyngir ar ei gyflogi, o dan Reoliadau a wneir o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, ond nad yw mewn cyflogaeth berthnasol, rhag darparu gwasanaethau mewn perthynas â'r ysgol honno neu'r sefydliad hwnnw neu mewn perthynas â'r rhai sy'n eu mynychu, a fyddai'n golygu cyswllt rheolaidd â phlant neu bersonau ifanc. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogydd person sy'n cael ei ddiswyddo o gyflogaeth berthnasol ar sail camymddygiad, neu sy'n ymddiswyddo o dan amgylchiadau y byddai'r cyflogydd wedi'i ddiswyddo o danynt, gyflwyno adroddiad am ffeithiau'r achos a rhoi unrhyw wybodaeth bellach am amgylchiadau'r diswyddo neu'r ymddiswyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Notes: [1] 1988 p.40. Mewnosodwyd is-adrannau (6A) a (6B) gan adran 49(2) o Ddeddf Addysg 1997 (p.44) a diwygiwyd is-adran (6A) gan adran 5(3) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14).back [2] 1998 p.30. Diwygiwyd adran 15 gan adran 5(4) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999.back [3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back [4] (ch) O.S. 1993/543. Diddymwyd pob darpariaeth arall yn y Rheoliadau hynny, gydag eithriadau, gan O.S. 2000/2419.back [5] O.S. 1998/1584. Diddymwyd pob darpariaeth arall yn y Rheoliadau hynny, gydag eithriadau, gan O.S. 2000/2419.back [7] Diwygiwyd adran 218(10) ac (11) gan adran 93 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), a pharagraff 49 o Atodlen 8 ac Atodlen 9 iddi.back [9] Ar gyfer ystyr "ysgol arbennig" gweler adrannau 6(2) a 337 o Ddeddf Addysg 1996, fel y'u diwygiwyd yn ôl eu trefn gan baragraffau 60 a 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith 1998.back [10] Mewnosodwyd adran 218(6ZA) gan adran 5(2) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999.back [11] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) 2000 (O.S. 2000/2419), sy'n gymwys i Gymru a Lloegr, oedd y Rheoliadau a oedd mewn grym o dan adran 218(6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.back
ISBN 0-11-090133-9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 21 November 2000 |