Offerynnau Statudol 2000 Rhif 2560 (Cy. 169 )

      Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090129 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 2560 (Cy. 169 )

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 21 Medi 2000 
  Yn dod i rym 22 Medi 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 50 a 63(3) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986[1], ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, diddymu ac eithrio
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 22 Medi 2000.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999[
3] wedi'u diddymu.

    (3) Er hynny, bydd y Rheoliadau hynny yn dal yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson y dyfarnwyd grant iddo o danynt os cafodd unrhyw daliad grant ei dalu gan y Cynulliad Cenedlaethol (neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan drefniadau cyfatebol a oedd yn gymwys yn Lloegr) cyn 22 Medi 2000 a bod y person yn parhau i ddilyn y cwrs y dyfarnwyd y grant mewn perthynas ag ef, neu wedi'i gwblhau.

Dehongli
     2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

    ystyr "athro neu athrawes gymwysedig" ("qualified teacher") yw person sydd -

    ystyr "cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon" ("post-graduate teacher training course") yw cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol i athrawon sydd -

    (a) yn cael ei ddarparu mewn sefydliad achrededig yng Nghymru; a

    (b) yn golygu bod person sy'n ei gwblhau yn llwyddiannus yn dod yn athro neu athrawes gymwysedig;

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "sefydliad achrededig" ("accredited institution") yw sefydliad sydd wedi'i achredu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ddarparydd cyrsiau sy'n bodloni unrhyw ddarpariaethau ynghylch cwricwla ac unrhyw feini prawf eraill a bennir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol[5];

    ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig (o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998)[6].

Cymhellion i bersonau ddilyn hyfforddiant athrawon
     3.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau o dan y rheoliad hwn yn gymhellion i bersonau cymwys ddilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon.

    (2) Mae'r per a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan baragraff (1) uchod yn cynnwys per i dalu grant i berson cymwys os yw'r person hwnnw -

    (3) Ym mharagraffau (1) a (2), ystyr "cymwys" yw cymwys i gael cymorth i fyfyrwyr o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[7].

Amodau
     4.  - (1) Ni thelir unrhyw daliad o dan reoliad 3 i berson -

    (2) Ni thelir unrhyw grant o dan reoliad 3 i berson oni bai ei fod wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y fath ffurf, ac ar y pryd a chan gynnwys unrhyw fanylion y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.

    (3) Ni chymerir bod dim yn y rheoliad hwn yn cyfyngu p er y Cynulliad Cenedlaethol i fabwysiadu meini prawf ar gyfer cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3.

Amodau Pellach
    
5.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion y bydd grant a delir yn unol â rheoliad 3 yn ad-daladwy o danynt.

    (2) Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gellir gosod gofyniad o dan baragraff (1) -

Swm y grant a thaliadau grant
    
6.  - (1) Rhaid i grantiau o dan reoliad 3 beidio â bod yn fwy nag unrhyw symiau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Gellir penderfynu ar wahanol symiau o dan baragraff (1) ar gyfer gwahanol achosion ac amgylchiadau.

    (3) Yn achos grant sy'n daladwy i berson yn rhinwedd rheoliad 3(2), rhaid i'r cyfanswm sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol beidio â bod yn fwy na'r gwahaniaeth rhwng swm y grant y mae wedi'i gael oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y trefniadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr a'r swm y penderfynir arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) uchod fel yr uchafswm sy'n daladwy i berson sydd -

    (4) Gall grantiau o dan reoliad 3 gael eu talu mewn un swm neu mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn benodol fod rhandaliadau yn daladwy ar ddyddiadau ar ôl i'r person ymgymryd â swydd addysgu fel athro neu athrawes gymwysedig.

    (5) Yn achos unrhyw grant sy'n daladwy tra bydd person yn dilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi arian i sefydliad achrededig i'w dalu i'r person hwnnw ar unrhyw adegau a gyfarwyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Talu cymhellion i gyrff llywodraethu ysgolion am gyflogi athrawon graddedig
    
7.  - (1) Yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau o dan y paragraff hwn yn gymhellion i annog cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i gyflogi personau sy'n ceisio dod yn athrawon cymwysedig drwy gwblhau'r cyfnod angenrheidiol o wasanaeth fel athro neu athrawes raddedig yn unol â pharagraff 7 o Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999, ac i sicrhau hyfforddiant ar eu cyfer.

    (2) Bydd grantiau o dan baragraff (1) yn daladwy mewn un swm neu mewn unrhyw randaliadau, ac ar unrhyw adegau, a wêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.

    (3) Mae rheoliad 5 yn gymwys mewn perthynas â grantiau o dan baragraff (1) fel y mae'n gymwys mewn perthynas â grantiau o dan reoliad 3.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8]


Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Medi 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Yr oedd Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999 yn darparu ar gyfer talu grantiau yn gymhellion i annog mwy o bobl i ddilyn cyrsiau ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon yn y coleg i addysgu mathemateg neu wyddoniaeth ar lefel uwchradd. Mae Rheoliadau 1999 yn cael eu diddymu gan y Rheoliadau hyn, ac eithrio yn achos y rhai sydd eisoes wedi cael taliad grant o dan Reoliadau 1999 cyn 22 Medi 2000.

O dan y Rheoliadau newydd hyn, gall grantiau cymhelliant gael eu talu mewn perthynas â chyrsiau o'r fath ar gyfer addysgu pob pwnc. Os caiff person unrhyw randaliadau grant mewn perthynas â chwrs mewn sefydliad yn Lloegr y mae grantiau cymhelliant yn daladwy ar ei gyfer o dan drefniadau cyfochrog, mae'r Rheoliadau yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i dalu unrhyw randaliadau eraill y byddai gan y person hwnnw hawl i'w cael yn rhinwedd y Rheoliadau hyn pe bai wedi cwblhau cwrs yng Nghymru y telid grant mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hyn.

Mae yn y Rheoliadau ddarpariaeth gwbl newydd sy'n fodd i grantiau gael eu talu i annog ysgolion i gyflogi athrawon graddedig a'u hyfforddi.

Mae yna esboniad manylach ar y Rheoliadau isod.

Mae Rheoliadau 1999 yn cael eu diddymu, ond bydd unrhyw berson sydd wedi cael taliad o dan y Rheoliadau hynny yn dal yn cael ei gynnwys o dan y Rheoliadau hynny (rheoliad 1) .

Mae rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau o dermau sy'n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau.

Gall grantiau gael eu talu yn gymhellion mewn perthynas â phersonau sy'n gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymgymryd â hyfforddiant ôl-raddedig i athrawon mewn coleg i addysgu unrhyw bwnc (rheoliad 3) .

Yn rheoliad 4 nodir nifer o achosion lle na all grant gael ei dalu o dan reoliad 3.

Mae rheoliad 5 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu grant o dan reoliad 3 ar yr amod ei bod yn ofynnol ei ad-dalu o dan amgylchiadau penodedig.

Mae rheoliad 6 yn darparu mai'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n penderfynu ar swm y grant, a all gael ei dalu mewn un swm neu mewn rhandaliadau (y gall rhai ohonynt gael eu gohirio tan ar ôl i'r person ymgymhwyso yn athro neu'n athrawes ac ymgymryd â swydd addysgu).

Gall taliadau cymhelliant gael eu talu i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i'w hannog i gyflogi athrawon graddedig a'u hyfforddi o dan y cynllun a elwir y "Rhaglen Athrawon Graddedig" (rheoliad 7) .


Notes:

[1] 1986 p.61. Diwygiwyd adran 63(3) gan baragraff 107(a) o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 (p.35).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/2816 (Cy.17).back

[4] 1988 p.40. Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)) a Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166) yw'r Rheoliadau cyfredol.back

[5] Gellir cael rhestr o'r sefydliadau dynodedig cyfredol oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Linden Court, The Orchards, Ty Glas Avenue, Llanisien, Caerdydd, CF4 5DZ.back

[6] 1998 p.31.back

[7] 1998 p.30; Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000 (O.S. 2000/1121) yw'r Rheoliadau cyfredol.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090129 0


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 17 October 2000