Offerynnau Statudol 2000 Rhif 2492 (Cy. 159 )

      Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090125 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 2492 (Cy. 159 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 12 Medi 2000 
  Yn dod i rym 13 Medi 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 173(1), (2) a (4) a 175(1A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2].

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 13 Medi 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygiadau
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991[3] yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Yn Rheoliad 17, ym mharagraff (2), yn lle "£29.48" rhowch "£30.39".

    (3) Yn Rheoliad 18,

    (a) ym mharagraff (1), yn lle "£29.48" rhowch "£30.39";

    (b) ym mharagraff (2),

      (i) yn is-baragraff (a) yn lle "£26.24" rhowch "£27.65"; a

      (ii) yn is-baragraffau (b) ac (c), yn lle "£52.49" rhowch "£55.31.".

Diddymu
     3. Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) 1999[4] a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Rhif 2) 1999[5] wedi'u diddymu mewn perthynas â Chymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Medi 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gwneud darpariaeth i aelod o gyngor plwyf yn Lloegr neu o gyngor cymuned yng Nghymru sy'n gynghorydd gael taliad yn lwfans presenoldeb nad yw'n fwy na'r swm a ragnodir drwy gyfrwng rheoliadau ac i aelod o gyngor o'r fath nad oes ganddo hawl i gael taliad o'r fath gael taliad yn lwfans colled ariannol nad yw'n fwy na'r swm a ragnodir drwy gyfrwng rheoliadau.

Mae adran 175 o Ddeddf 1972 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu i aelod o awdurdod lleol neu o unrhyw gorff arall y mae'r adran honno'n gymwys iddo lwfans am fynd i gynhadledd neu gyfarfod nad yw'n fwy nag unrhyw swm a bennir mewn rheoliadau neu y penderfynir arnynt o danynt.

Mae Rheoliad 17 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 yn pennu swm at ddibenion adran 175 o Ddeddf 1972 ac mae Rheoliad 18 o'r Rheoliadau hynny'n pennu symiau at ddibenion adran 173 o'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 17 a 18 o Reoliadau 1991 drwy gynyddu'r symiau perthnasol, ac yn diddymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) 1999 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Rhif 2) 1999 mewn perthynas â Chymru.


Notes:

[1] 1972 p. 70. Diwygiwyd adran 173 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p. 65), adran 24(1) a chan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), Atodlen 11, paragraff 26. Mewnosodwyd adran 175(1A) gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, Atodlen 11, paragraff 27. I gael y diffiniad o "prescribed" gweler adran 270 o Ddeddf 1972.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1991/351; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1999/1086 ac O.S. 1999/1087.back

[4] O.S. 1999/1086.back

[5] O.S. 1999/1087.back

[6] 1998 p. 38.back


English version



ISBN 0 11 090125 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 5 October 2000