Rheoliadau (Diwygio) (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau (Diwygio) (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2000, ISBN 0 11 515476 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, o ymarfer â'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 362(2) a 744 o Ddeddf Cwmnïau 1985[1], fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr laith Gymraeg 1993[2], ynghyd â phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:1. Gellir dyfynnu'r Rheoliadau hyn fel Rheoliadau (Diwygio) (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2000, a deuant i rym ar 2 Hydref 2000. 2. Mae Ffurflen 363s cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y bydd amgylchiadau'n peri bod eu hangen, yn ffurflen ychwanegol sydd wedi ei phennu at ddibenion adran 362(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985, lle cafodd y ffurflen ei danfon gan y cofrestrydd i gwmni y dywed ei femorandwm fod ei swyddfa gofrestredig i'w lleoli yng Nghymru, at ddibenion datganiad manylion blynyddol gan y cwmni hwnnw. Jeanne Spinks, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Adran Masnach a Diwydiant. 6 Medi 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu Ffurflen newydd 363s cym yn cyfateb i Ffurflen 363s a bennwyd gan Reoliadau (Diwygio) (Ffurflenni) Cwmnïau 1999 (O.S. 1999/2356). Mae'r ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac fe ddaw i rym ar 2 Hydref 2000. Caiff ei rhoi gan y cofrestrydd cwmnïau i unrhyw gwmni sydd â memorandwm yn nodi ei fod i'w gofrestru yng Nghymru (o'i gwrthgyferbynnu â Chymru a Lloegr) ac sy'n hysbysu'r cofrestrydd ei fod am dderbyn honno yn lle ffurflen 363s. Fel ffurflen 363s fe gaiff ei hanfon wedi ei llenwi'n rhannol yn barod o gofnodion y cofrestrydd, a bydd modd i'r cwmni ei dychwelyd wedi ei diwygio a'i llenwi yn ôl sy'n briodol. Notes: [1] 1985 c. 6; cafodd adran 363 ei chyflwyno gan adran 139(1) o Ddeddf Cwmnïau 1989 (c. 40), a'i diwygio gan erthygl 7 o O.S. 1990/1707. Gweler diffiniad "pennu" yn adran 744.back
ISBN 0 11 515476 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 13 October 2000 |