Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090111-8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 87(1) a (2) a 91(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[1] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 87(7) o'r Ddeddf honno ag Asiantaeth yr Amgylchedd, unrhyw gorff neu bersonau y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol a diwydiant fel y gwêl yn briodol, ac unrhyw gorff neu bersonau eraill y gwêl yn briodol:Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Awst 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig . Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn,
(2) Bydd darpariaethau Rhan II o'r Atodlen yn effeithiol at ddibenion dehongli'r Atodlen.
(b) lle mae aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn rheolaidd.
Diddymu
Dehongli At ddibenion yr Atodlen hon: 1. - (1) Cymedr blynyddol cyfredol yw cymedr a gyfrifir yn ôl yr awr, gan ildio un cymedr blynyddol cyfredol yr awr. Y cymedr blynyddol cyfredol ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol am awr benodol yw cymedr y lefelau yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am yr awr honno a'r 8759 o oriau blaenorol. (2) Er mwyn cyfrifo cymedr blynyddol cyfredol, y lefel yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yw naill ai:
(b) cymedr y lefelau a gofnodir yn y lleoliad hwnnw ar sail 2 neu ragor o samplau o aer a gymerir yn ystod yr awr am gyfnod agregedig o 30 munud o leiaf.
2.
Cymedr a gyfrifir ar sail oriau ac sy'n ildio un cymedr 8 awr cyfredol yr awr yw cymedr 8 awr cyfredol. Cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol am awr benodol a'r 7 awr flaenorol yw'r cymedr 8 awr cyfredol ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am yr awr honno.
(b) o ran nitrogen deuocsid, cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer y flwyddyn honno; ac (c) o ran PM10, cymedr y cymedrau 24 awr ar gyfer y flwyddyn honno;
(2) At ddibenion cyfrifo'r cymedr blynyddol ar gyfer plwm, y lefel ddyddiol ar gyfer plwm mewn lleoliad penodol ar ddiwrnod penodol yw'r lefel lle cofnodir bod plwm yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr wythnos y digwydd y diwrnod ar sail sampl barhaus o aer a gymerir drwy gydol yr wythnos honno (gan briodoli'r un lefel ddyddiol felly i bob diwrnod o'r wythnos honno). (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 ("Deddf 1995") yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru adolygu ansawdd yr aer yn eu hardaloedd. Rhaid i'r adolygiadau ystyried ansawdd yr aer ar y pryd ac ansawdd tebygol yr aer yn y dyfodol yn ystod y "cyfnod perthnasol" (cyfnod sydd i'w ragnodi gan reoliadau). Ynghyd â'r adolygiadau hyn, rhaid asesu a yw unrhyw safonau neu amcanion ansawdd aer, fel y'u rhagnodir gan reoliadau, yn cael eu cyflawni neu yn debygol o gael eu cyflawni o fewn y cyfnod perthnasol. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Awst 2000, yn rhagnodi'r cyfnod perthnasol y cyfeirir ato uchod (rheoliad 3) a'r amcanion ansawdd aer sydd i'w cyflawni erbyn diwedd y cyfnod hwnnw (rheoliad 4 a'r Atodlen). Yr un yw'r amcanion â'r rhai a nodir yn y Strategaeth Ansawdd Aer i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (Cm 4548, Ionawr 2000) ac a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 80 o Ddeddf 1995. Os yw'n debygol na chyflawnir un neu fwy o'r amcanion ansawdd aer a ragnodir gan y Rheoliadau hyn o fewn unrhyw ran o ardal cyngor o fewn y cyfnod perthnasol, bydd rhaid i'r cyngor o dan sylw ddynodi'r rhan honno o'i ardal yn ardal rheoli ansawdd aer (adran 83(1) o Ddeddf 1995). Yna, bydd rhaid paratoi cynllun gweithredu sy'n ymdrin â'r ardal ddynodedig ac yn nodi sut mae'r cyngor yn bwriadu arfer ei bwerau mewn perthynas â'r ardal ddynodedig er mwyn cyflawni'r amcanion rhagnodedig (adran 84(2) o Ddeddf 1995). Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Ansawdd Aer 1997. Roedd y Rheoliadau hynny yn gymwys i Brydain Fawr ond maent wedi'u diddymu eisoes i'r graddau yr oeddent yn gymwys i'r Alban gan Reoliadau Ansawdd Aer (Yr Alban) 2000 (O.S.A. 2000/97) ac i'r graddau yr oeddent yn gymwys i Loegr gan Reoliadau Ansawdd Aer (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/928). Notes: [1] 1995 p.25. Gweler y diffiniad o "prescribed", "regulations" a "the relevant period" yn adran 91(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 ("Deddf 1995").back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 87 a 91 o Ddeddf 1995 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [3] Gweler adrannau 82 i 85 o Ddeddf 1995.back [4] O.S. 1997/3043. Diddymwyd y Rheoliadau hyn, a oedd yn gymwys i Brydain Fawr, i'r graddau yr oeddent yn gymwys i'r Alban gan O.S.A. 2000/97 ac i'r graddau yr oeddent yn gymwys i Loegr gan O.S. 2000/928.back
ISBN 0-11-090111-8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 23 August 2000 |