Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090115-0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 6(4), 16(1)(e) ac (f), 17, 18(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000, deuant i rym ar 25 Gorffennaf 2000 a byddant yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn. -
n â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd, fel y'i diwygiwyd (i'r graddau y mae'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn) gan Gyfarwyddeb y Cyngor 86/197/CEE[3] a Chyfarwyddeb y Cyngor 89/395/CEE[4];
ns, rataffias, toes a chasys toes ac mae'n cynnwys hefyd meringues, petits fours a thoes a chasys toes sydd heb eu coginio, ond nid yw'n cynnwys bara, pizzas, bisgedi, bara crimp, bara gwastad allwthiedig nac unrhyw fwyd sy'n cynnwys llenwad y mae unrhyw gaws, cig, syrth, pysgod, pysgod cregyn, deunydd protein llysieuol neu ddeunydd protein microbig yn gynhwysyn ynddo;
(b) mewn perthynas â chyffaith blawd, bara ac iâ bwytadwy, yw wedi'i ragbacio gan fanwerthwr i'w werthu fel yn is-baragraff (a) o'r diffiniad hwn, neu wedi'i ragbacio gan gynhyrchydd y bwyd er mwyn i gynhyrchydd y bwyd ei werthu naill ai ar y safle lle cynhyrchwyd y bwyd neu ar safle arall y mae'r cynhyrchydd bwyd yn cynnal ei fusnes ohono o dan yr un enw â'r busnes sy'n cael ei gynnal ar y safle lle mae'r bwyd yn cael ei gynhyrchu.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1139/98 neu Rheoliad 50/2000 yr un ystyr yn y rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad o dan sylw.
(b) os yw
(ii) wedi'i amgáu'n gyfan gwbl mewn pecyn cyn cael ei gynnig i'w werthu a bwriedir iddo gael ei goginio heb agor y pecyn, ond nid yw bwyd i gael ei ystyried fel bwyd wedi'i ragbacio at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw'n felysyn neu siocled sydd wedi'i lapio'n unigol ac sydd heb ei amgáu mewn unrhyw becyn ychwanegol ac nad yw wedi'i fwriadu i'w werthu fel eitem unigol.
(4) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad sydd â'r rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall. Esemptiadau 3. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd y deuir ag ef i mewn i Gymru o ran arall o'r Deyrnas Unedig neu o Aelod-wladwriaeth (heblaw'r Deyrnas Unedig) -
(b) os cafodd ei gynhyrchu mewn Aelod-wladwriaeth neu os oedd yn cael ei gylchredeg yn ddirwystr yn y rhan o'r Deyrnas Unedig neu yn yr Aelod-wladwriaeth y daethpwyd ag ef i Gymru ohoni, ac (c) os yw gofynion Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 (fel y bo'n gymwys), fel y'u darllenir yn y naill achos a'r llall gyda Chyfarwyddeb 79/112, wedi'u bodloni mewn perthynas â'r bwyd hwnnw.
(2) Ni fydd dim ym mharagraff (1) uchod yn atal gorfodi rheoliad 7(c).
(b) ar label sydd ynghlwm wrth y pecyn, neu (c) ar label sydd i'w weld yn glir drwy'r pecyn, ac eithrio pan werthir i unrhyw un heblaw'r prynwr terfynol, y caiff y manylion hyn fel arall ymddangos ar y dogfennau masnachol yngl n â'r bwyd yn unig, os oes modd gwarantu bod y dogfennau hynny sy'n cynnwys y manylion hyn i gyd, naill ai gyda'r bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r bwyd gael ei ddanfon, neu yr un pryd â hynny.
Dull marcio neu labelu: rheolau arbennig
(b) bwyd sydd wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol; ac (c) unrhyw gynnyrch cyffeithiol ffansi sydd wedi'i lapio'n unigol ac nad yw wedi'i amgáu mewn unrhyw becyn arall ac y bwriedir ei werthu fel eitem unigol.
(2) Pan fydd unrhyw fwyd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael ei werthu i'r prynwr terfynol, rhaid i'r manylion y mae Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio neu eu labelu arno ymddangos, ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (3) isod -
(b) ar fwydlen, hysbysiad, tocyn neu label y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis y bwyd hwnnw.
(3) Pan fydd bwyd -
(b) a hwnnw -
(ii) wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol, ac
(c) yn cael ei werthu i'r prynwr terfynol mewn safle priodol,
rhaid peidio â thrin defnyddio labelau amgen yn lle'r manylion GMO ar ei ben ei hun fel achos o dorri'r gofynion labelu hynny ac at y diben hwn defnyddir labelau amgen, pan ddangosir y manylion amgen yn unol â pharagraff (4) isod, yn lle bod y manylion y cyfeirir atynt yn Erthygl 2(3) o Reoliad 1139/98 neu yn Erthyglau 2 a 4 o Reoliad 50/2000 yn ymddangos yn y dull a bennir ym mharagraff (2)(a) neu (b) uchod.
(b) yn achos bwyd y mae gofynion labelu Rheoliad 50/2000 yn gymwys iddo, wybodaeth i'r perwyl y bod rhywfaint o'r bwyd sy'n cael ei werthu ar y safle hwnnw yn cynnwys ychwanegion neu gyflasynnau, neu'r ddau, yn ôl fel y digwydd, sydd wedi'u cynhyrchu o organedd a addaswyd yn enetig, a bod gwybodaeth bellach ar gael oddi wrth y staff.
(5) Yn y rheoliad hwn, mae "safle" yn cynnwys unrhyw long neu awyren ac ystyr "safle priodol" yw safle -
(ii) bwyd penodol sy'n cael ei werthu ar y safle hwnnw yn cynnwys ychwanegion neu gyflasynnau a gynhyrchwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o organedd a addaswyd yn enetig, a
(b) lle mae gweithdrefn sefydledig ar y safle hwnnw ar gyfer rhoi gwybod yn gyson i'r staff yngl
(6) Pan fydd unrhyw fwyd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael ei werthu heblaw i'r prynwr terfynol, rhaid i'r manylion y mae Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio neu eu labelu arno ymddangos -
(b) ar docyn neu hysbysiad y mae'n hawdd i ddarpar brynwr ei ddirnad yn y man lle mae'n dewis y bwyd, neu (c) mewn dogfennau masnachol yngl n â'r bwyd lle gellir gwarantu bod y dogfennau hynny naill ai gyda'r bwyd y maent yn ymwneud ag ef neu wedi cael eu hanfon cyn i'r bwyd gael ei anfon, neu yr un pryd â hynny.
Eglurder y marcio neu'r labelu Tramgwyddau a chosbau 7. Bydd unrhyw berson -
n ag ef yn unol â rheoliad 5(4),(b) sy'n gwerthu unrhyw fwyd nad yw wedi'i farcio neu wedi'i labelu yn unol â rheoliad 4, 5 neu 6, neu (c) sy'n rhoi ar y farchnad unrhyw fwyd newydd neu gynhwysyn bwyd newydd nad yw'r gofynion ychwanegol yngl n â hwy mewn perthynas â gwybodaeth i fwytawyr a nodir yn Erthygl 8(1) o Rheoliad 258/97 wedi'u bodloni,
yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol o'i gollfarnu'n ddiannod.
(b) yn achos allforio i Aelod-wladwriaeth fwyd y mae Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000 yn gymwys iddo, fod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau Rheoliad 1139/98 neu Reoliad 50/2000, fel y bo'n briodol, fel y'u darllenir gyda Chyfarwyddeb 79/112.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol y Ddeddf
(2) Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, dehonglir y cyfeiriad yn is-adran (1)(a) i'r Ddeddf fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 258/97, Rheoliad 1139/98 a Rheoliad 50/2000.
Diwygiadau canlyniadol
(b) ym mharagraff (3A), hepgorir y geiriau "and the GMO particulars".
(5) Yn rheoliad 35 (gofyniad cyffredinol ynghylch dull marcio neu labelu), hepgorir y geiriau "or by Regulation 1139/98".
(b) hepgorir paragraffau (4A) i (4C).
(7) Yn rheoliad 38(1) (eglurder marcio neu labelu), hepgorir y geiriau "or by Regulation 1139/98".
(b) o dan reoliad 7(b), fel y'i darllenir gyda rheoliad 5 neu 6,
mewn perthynas â'r manylion y mae Rheoliad 1139/98 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio neu eu labelu ar unrhyw fwyd perthnasol, bydd yn amddiffyniad profi -
(ii) yn achos bwyd a werthwyd i fasarlwyydd, ei fod wedi'i baratoi gan ddefnyddio cynhwysyn a oedd ar werth cyn 10 Ebrill 2000.
(2) Mewn unrhyw achos am dramgwydd -
(b) o dan reoliad 7(b), fel y'i darllenir gyda rheoliad 5 neu 6,
mewn perthynas â'r manylion y mae Rheoliad 50/2000 yn ei gwneud yn ofynnol eu marcio neu eu labelu ar unrhyw fwyd perthnasol , bydd yn amddiffyniad profi bod y bwyd wedi'i werthu i'r prynwr terfynol neu i fasarlwyydd a'i fod wedi'i baratoi gan ddefnyddio cynhwysyn a oedd ar werth cyn 10 Ebrill 2000.
(ii) sydd wedi'i ragbacio i'w werthu'n uniongyrchol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi -
(b) Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 50/2000 ar labelu bwydydd a chynhwysion bwyd sy'n cynnwys ychwanegion a chyflasynnau a addaswyd yn enetig neu sydd wedi'u cynhyrchu o organeddau a addaswyd yn enetig; ac (c) y gofynion labelu yn Erthygl 8(1) o Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 258/97 ynghylch bwydydd newydd a chynhwysion bwyd newydd (fel y'u darllenir gydag Erthyglau 1 a 2 o'r Rheoliad hwnnw).
Bwydydd a chynhwysion bwyd sydd i'w cyflwyno fel y cyfryw i'r prynwr terfynol yw'r cynhyrchion yr ymdrinnir â hwy gan Reoliad 1139/98, ar ôl iddynt gael eu cynhyrchu'n gyfan gwbl neu'n rhannol o ffa soia a addaswyd yn enetig neu indrawn a addaswyd yn enetig, fel y cyfeirir atynt yn Erthygl 1 o'r Rheoliad hwnnw. Estynnodd Rheoliad 49/2000 gwmpas Rheoliad 1139/98 i gynnwys gwerthiannau i fasarlwywyr a phennodd drothwy isaf o 1% ar gyfer difwyno cynhwysyn yn ddamweiniol â deunydd sy'n deillio o organeddau a addaswyd yn enetig. Mae Rheoliad 50/2000 yn gymwys hefyd yn achos bwyd a chynhwysion bwyd sydd wedi'u bwriadu ar gyfer prynwyr terfynol a masarlwywyr. Mae Rheoliadau 1139/98, fel y'u diwygiwyd, a Rheoliad 50/2000 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.
(b) am bresenoldeb deunydd yn y bwyd newydd neu'r cynhwysyn bwyd newydd nad yw'n bresennol mewn bwyd cyfatebol presennol ac a all fod ag oblygiadau ar gyfer iechyd rhannau penodol o'r boblogaeth neu achosi pryderon moesegol; ac (c) am bresenoldeb organedd a addaswyd yn enetig.
Gwnaed Rheoliadau 1139/98, fel y'u diwygiwyd, a 50/2000 yn unol ag Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/112/CEE ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd. Yn unol ag Erthyglau 11 a 13 o'r Gyfarwyddeb honno, mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys -
(b) darpariaeth yngl n â dull y marcio neu'r labelu yn achos y manylion a fynnir gan y Rheoliadau hynny (rheoliadau 4 i 6).
Yn ychwanegol at Erthygl 12 o'r Gyfarwyddeb honno, mae'r Rheoliadau hyn -
(b) yn cynnwys trefniadau trosiannol yngl n â gwerthu bwyd o'r fath i'r prynwr terfynol neu i fasarlwyydd (rheoliad 13).
Mae'r rheoliadau hyn hefyd -
(b) yn darparu amddiffyniad yngl n ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/CEE (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar y dull swyddogol o reoli bwydydd, fel y'u darllenir gyda'r nawfed cronicliad i'r Gyfarwyddeb honno (rheoliad 9);(c) yn ymgorffori darpariaethau penodedig Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 10); ac (ch) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall yngl n â Chymru (rheoliadau 11 a 12).
Notes: [1] 1990 p.16; mae swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Ministers" yn arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Diwygiwyd adran 6(4)(a) o'r Ddeddf gan Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40), Atodlen 9, paragraff 6. Ychwanegwyd adran 48(4A) gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), Atodlen 5 paragraff 21.back [2] OJ Rhif L33, 8.2.79, t.1.back [3] OJ Rhif L.144, 29.5.86, t.38.back [4] OJ Rhif L186, 30.6.89, t.17.back [5] (ch) OJ Rhif L43, 14, 2, 97, t.1.back [6] OJ Rhif L159, 3.6.98, t.4.back [7] OJ Rhif L190, 4.7.98, t.86.back [8] OJ Rhif L6, 11.1.2000, t.13.back [9] (ch) OJ Rhif L6, 11.1.2000, t.15.back [10] O.S. 1996/1499; O.S. 1998/1398, 1999/747, 1483 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back [11] O.S. 1997/1335; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0-11-090115-0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 4 September 2000 |