Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1868 (Cy.127)

      Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090120 7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1868 (Cy.127)

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 7 Gorffennaf 2000 
  Yn dod i rym 14 Gorffennaf 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(1) o Ddeddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2000.

    (2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997
    
2. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997[3] (personau y gellir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt), hepgorir is baragraff (a) o baragraff (2).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]).


Jane Davidson
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Gorffennaf 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Deddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996 yn galluogi awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ddarparu (neu am drefnu darparu) gwasanaethau gofal cymunedol i wneud cyfraniadau ar ffurf taliadau uniongyrchol i bersonau er mwyn iddynt sicrhau y darperir y gwasanaethau hynny.

Mae Rheoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997 yn pennu'r personau y gellir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt o dan y Ddeddf. Nid yw'r disgrifiad o'r personau hynny yn cynnwys unrhyw berson sy'n 65 oed neu drosodd, oni bai bod y person hwnnw wedi cael taliad uniongyrchol yn y flwyddyn cyn i'r person gyrraedd 65 oed.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1997fel bod y personau y gellir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt o dan y Ddeddf yn cynnwys personau 65 oed neu drosodd p'un a gawsant daliad o'r fath yn ystod y flwyddyn cyn iddynt gyrraedd eu 65 oed neu beidio.


Notes:

[1] 1996 p. 30.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/734.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090120 7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 13 September 2000