Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1866 (Cy.125)

      Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090104 5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1866 (Cy.125)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 14 Gorffenaf 2000 
  Yn dod i rym 1 Tachwedd 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 6(4), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno â'r sefydliadau hynny sy'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol y bydd y Rheoliadau yn effeithio arnynt yn sylweddol, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2001 a byddant yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

    ystyr "bwyd meddygol" ("medical food") yw bwyd sy'n dod o fewn dosbarth bwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig y gosodir gofynion cyfansoddi a labelu ar eu cyfer yn y Gyfarwyddeb; ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

    mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys meddu ar gyfer gwerthu a chynnig, rhoi ar werth neu hysbysebu (ac eithrio drwy gyfrwng label neu bapur lapio).

Cyfyngiadau ar werthu
     3.  - (1) Ni chaiff neb werthu bwyd meddygol oni bai  - 

    (2) Nid yw person sydd, mewn perthynas â bwyd meddygol o fath arbennig  - 

yn cael gwerthu bwyd meddygol o'r math hwnnw.

    (3) At ddibenion paragraff (2) uchod yr awdurdod cymwys yw  - 

Gorfodi
    
4. Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Troseddau a chosbau
    
5. Os bydd i unrhyw berson  - 

bydd ef neu hi yn euog o drosedd ac ar gollfarn ynadol yn agored i gosb nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
    
6.  -  Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â throsedd o dan reoliad 3(1) uchod bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi bod y bwyd yr honnir i'r drosedd gael ei chyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad (nad yw'n aelod-Wladwriaeth) ac iddi ddeddfwriaeth gyfwedd â'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno. Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990
    
7. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn:



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


Jane Davidson
Y Dirprwy Lywydd Cynulliad, Cenedlaethol Cymru

14 Gorffennaf 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Tachwedd 2001, yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig.

Mae Erthygl 1(2) o'r Gyfarwyddeb yn rhoi dosbarth i'r bwydydd hynny fel bwydydd a brosesir yn arbennig neu a fformwleiddir yn arbennig ar gyfer rheoli o dan oruchwyliaeth feddygol ddeiet y cleifion hynny sydd angen deiet arbennig, ac mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diffinio bwyd meddygol fel bwyd o fewn y dosbarth hwnnw.

Mae Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb yn galw ar Aelod-wladwriaethau i sicrhau y gellir marchnata bwyd o'r fath dim ond os yw'n cydymffurfio â'r Gyfarwyddeb. Mae Erthyglau 3 a 4 o'r Gyfarwyddeb yn gosod gofynion ar gyfer fformwleiddio, cyfansoddi a chyfarwyddiadau ar ddefnyddio bwyd o'r fath, ac ar gyfer ei enwi a'i labelu. Mae rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn yn gwahardd gwerthu bwyd meddygol oni bai fod y gofynion hynny'n cael eu bodloni.

Mae Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol hysbysu'r awdurdodau cymwys fod cynhyrchion sy'n dod o dan y Gyfarwyddeb yn cael eu rhoi ar y farchnad p'un a ydynt yn cael eu gwneud o fewn y Gymuned Ewropeaidd, neu'n cael eu mewnforio o'r tu allan iddi. Mae rheoliad 3(2) a (3) yn gwahardd gwneuthurwyr a mewnforwyr rhag gwerthu bwydydd meddygol y mae'n ofynnol eu hysbysu oni bai eu bod wedi cydymffurfio â'r gofynion i hysbysu. Yn achos bwydydd meddygol a wneir yng Nghymru, neu a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, yr awdurdod perthnasol yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae rheoliadau 4, 5 a 7 yn nodi cyfrifoldebau gorfodi, troseddau a chosbau, a chymhwysiad darpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990.

Mae'r Rheoliadau yn darparu amddiffyniad hefyd mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (rheoliad 6).


Notes:

[1] 1990 p.16; Diwygiwyd adran 6(4) o'r Ddeddf gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoli a Chontractio Allan 1994 (p.40) a chan baragraff 10(3) o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28). Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau a freiniwyd yng Ngweinidogion y Goron, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 .back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29.back

[4] 1998 c.38.back



English version



ISBN 0 11 090104 5


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 8 August 2000