Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1799 (Cy.124)

      Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090095-2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1799 (Cy.124)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 7 Gorffennaf 2000
  Yn dod i rym 8 Gorffennaf 2000 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ar ôl iddo ystyried y cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48 (4A) o'r Ddeddf honno ac ar ôl iddo, yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y Rheoliadau canlynol, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. -

    (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000, deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2000 a byddant yn gymwys i Gymru.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995[
3].

Diwygio'r prif Reoliadau
     2.- Diwygir y prif Reoliadau, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, drwy ychwanegu, ar ddiwedd y diffiniad o "Directive 95/45/EC" yn rheoliad 2(1), y geiriau", as amended by Directive 1999/75/EC"[4]).

Darpariaeth ganlyniadol
     3. -

    (1) Cymerir bod cyfeiriadau at y prif Reoliadau yn y darpariaethau a restrir ym mharagraff (2) isod, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys i Gymru, yn gyfeiriadau at y prif Reoliadau fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn.

    (2) Dyma'r darpariaethau y mae paragraff (1) uchod yn cyfeirio atynt  - 

    (a) y diffiniad o "permitted colour" yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981[5];

    (b) y diffiniad o "additive" yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984[6];

    (c) y diffiniad o "colour" yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992[7] ;

         (ch) y diffiniad o "colour" yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[8]); a

    (d) y diffiniad o "the additives Regulations" yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996([9]



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10])


Jane Davidson
Y Dirprwy Lywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Gorffennaf 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 ("Rheoliadau 1995") drwy ddiweddaru cyfeiriad at Gyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC sy'n gosod meini prawf penodol yngln â lliwiau, sydd i'w defnyddio mewn bwydydd (0J Rhif L226, 22.9.95, t.1) er mwyn ymdrin â'r diwygiad a wnaed gan Gyfarwyddeb y Comisiwn1999/75/EC (OJ Rhif L206, 5.8.1999, t.19), a newidiodd y fanyleb ar gyfer "E160a(i) Mixed Carotenes", a thrwy ddiweddaru'r cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill.

Mae Rheoliadau 1995 yn pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir defnyddio neu werthu lliwiau (a ddiffinir fel ychwanegion bwyd y bwriedir eu defnyddio ar gyfer y prif bwrpas o ychwanegu neu adfer lliwiau mewn bwyd). Caiff unrhyw liw ei ganiatáu felly dim ond os yw'n bodloni meini prawf purdeb a bennir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC.


Notes:

[1] 1990 p.16; Diwygiwyd adran 6(4) o'r Ddeddf gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40) a chan baragraff 10(3) o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28). Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a freiniwyd yng Ngweinidogion y Goron mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672.back

[3] O.S. 1995/3124.back

[4] OJ Rhif L206, 5.8.99, t.19.back

[5] O.S. 1981/1063; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3124.back

[6] O.S. 1984/1566; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3123, 1995/3124 a 1995/3187.back

[7] O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3124.back

[8] O.S. 1995/3187; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[9] O.S. 1996/1499; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn; gweler hefyd O.S. 1999/1136.back

[10] 1998. p.38.back


English version



ISBN 0-11-090095-2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 4 August 2000