Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl)(Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl)(Cymru) 2000, ISBN 0 11 090124 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 23 o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984[1] del eu hestynnwyd gan adran 21(1)(b) o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970[2], a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[3] a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ac wedi ymgynghori â chyrff cynrychioliadol yn unol ag adran 134(2) o'r Ddeddf 1984 honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2000 Diddymu. 2. Diddymir Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) (Lloegr a Chymru) 1986 [4]). Dehongli 3. - (1) Yn y rheoliadau hyn -
(b) sydd yn parhau mewn grym;
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) mae cyfeiriad at orchymyn a wnaed o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf 1984 yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn sy'n cael effaith fel petai wedi ei wneud o dan y Ddeddf honno, ac at orchymyn sy'n amrywio neu'n diddymu gorchymyn sy'n cael effaith fel petai wedi ei wneud o dan y Ddeddf honno.
Ystyr "safle perthnasol"
(b) os yw'r ddisg yn cael ei harddangos mewn safle amlwg ar y cerbyd os nad oes dangosfwrdd neu banel deialau gan y cerbyd,
fel bod y cyfnod o chwarter awr pan ddechreuodd y cyfnod aros yn eglur ddarllenadwy o'r tu allan i'r cerbyd pan fydd y cyfnod wedi ei farcio ar y ddisg.
(ii) pan fydd llai na chyfnod penodol wedi mynd heibio ers cyfnod aros blaenorol gan yr un cerbyd ar y ffordd honno, a
(b) os nad yw'r gwaharddiad yn gymwys i bob cerbyd heblaw cerbydau personau anabl.
(2) Rhaid i orchymyn y bydd y rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys esemptiad o'r gwaharddiad er budd cerbyd sy'n dangos bathodyn person anabl yn y safle perthnasol.
(b) nad yw'n gymwys i lôn bysiau neu lôn beiciau yn ystod yr oriau gweithredu; a (c) nad yw'n ddarpariaeth o'r math y cyfeirir ati yn rheoliad 7(1).
(2) Rhaid i orchymyn y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys esemptiad rhag y gwaharddiad yn unol â pha un bynnag o baragraffau (3) neu (4) sy'n briodol ar gyfer unrhyw gerbyd sy'n arddangos bathodyn person anabl yn y safle perthnasol.
(b) yr arddangosir disg barcio wedi ei marcio i ddangos y cyfnod o chwarter awr pan gychwynnodd y cyfnod aros a esemptir yn y safle perthnasol ar y cerbyd.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr "disg barcio" yw dyfais sydd -
(b) wedi ei roi gan awdurdod lleol a heb beidio â bod yn ddilys; ac (c) yn gallu dangos y cyfnod o chwarter awr pan gychwynnodd cyfnod aros.
Esemptiadau rhag darpariaethau eraill gorchmynion o dan adran 45 neu 46 o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984
(b) y cyfnod hwyaf y caiff cerbyd aros mewn lle parcio; neu (c) cyfnod sy'n gorfod mynd heibio cyn y caiff cerbyd ddychwelyd i fan parcio wedi iddo gael ei symud oddi yno.
(2) Rhaid i orchymyn y bydd y rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys esemptiad rhag pob un o'r materion a bennir felly ar gyfer cerbyd sy'n arddangos bathodyn person anabl yn y safle perthnasol. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Diben y Rheoliadau hyn (gyda Rheoliadau cysylltiedig ar Fathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) yw cyflwyno cyfundrefn bathodynnau glas ar gyfer personau anabl o Gymru fydd yn cael eu derbyn ar draws yr Undeb Ewopeaidd yn lle'r un bresennol sy'n seiliedig ar fathodynnau oren. Mae rheoliadau tebyg yn cael eu gwneud yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn dilyn Argymhelliad a wnaed ym 1998 gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd. Gall awdurdodau lleol wneud gorchmynion yngl n â pharcio o dan Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984. Pennwyd esemptiadau ar gyfer personau anabl y byddai'n ofynnol i'r awdurdodau lleol eu cynnwys mewn gorchmynion yngl n â gwaharddiadau a chyfyngiadau parcio a'r tâl y gellid ei godi yn Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl)(Lloegr a Chymru) 1986.Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau 1986 (rheoliad 2). Yn rheoliadau 3 a 4 dehonglir termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau. Mae rheoliadau 5 i 9 yn pennu'r gorchymynion perthnasol a'r modd y bydd yr esemptiadau yn effeithio arnynt. Notes: [1] 1984 p.27.back [2] 1970 p.44; diwygiwyd adran 21 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) Atodlen 30; Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1973 (p.65), Atodlen 14; Deddf Trafnidiaeth 1982 (p.49),adran 68; Deddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 (p.27), Atodlen 13, paragraff 11; Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), Atodlen 5; Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), adran 35, Atodlen 8; Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), Atodlen 10, paragraff 8; a Deddf Llywodraeth Leol etc. (yr Alban) 1994 (p.39), Atodlen13, paragraff 86.back [3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau)1999 (O.S.1999/672).back [4] (ch) O.S. 1986/178, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Nid yw'r Rheoliadau hyn bellach yn gymwys yn Lloegr yn rhinwedd Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol( Esemptiadau ar gyfer Personau Anabl) (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/683).back [5] O.S. 1994/1519, gweler Rhan I.back [6] O.S. 2000/ 1786 (Cy. 123).back
ISBN 0 11 090124 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 5 October 2000 |