Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1738 (Cy.121)

      Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090106-1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1738 (Cy.121)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 19 Mai 2000 
  Yn dod i rym 20 Mai 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 45 a 48(1)(b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac wedi ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 20 Mai 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995
    
2. Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995[2] (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 i 5 isod.

     3. Yn rheoliad 2 (dehongli) -

    (a) caiff y diffiniad o "dairy farm visit" a'r diffiniadau cysylltiedig o "sampling dairy farm visit" a "general dairy farm visit" eu hepgor;

    (b) caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod ar ôl y diffiniad o "registered production holding"  - 

      " "sampling dairy farm visit" means a visit to a registered production holding by an inspector for the purpose of taking samples of milk for analysis and examination to ascertain whether paragraph 2(b) of Part I of Schedule 4 (as read with regulation 9(1)(d) and (2)(a)) to the principal Regulations is being complied with;".

     4. Yn rheoliad 3 (atebolrwydd i dalu taliadau) -

     5. Caiff yr Atodlen ei hepgor.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mai 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995, fel y'u diwygiwyd, ("Rheoliadau 1995") mewn perthynas â Chymru.

Mae taliadau i'w talu gan gynhyrchwyr llaeth ar ddaliadau cofrestredig o dan Reoliadau 1995 mewn perthynas ag ymweliadau â ffermydd llaeth a gynhelir er mwyn darganfod a yw darpariaethau Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995, (O.S. 1995/1086, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, 1996/1499, 1996/1699, 1997/1729, 1998/2424 a 2000/656) yn cael eu bodloni. Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r atebolrwydd i dalu taliadau o'r fath, ac eithrio mewn perthynas ag ymweliadau at ddiben cymryd samplau o laeth yfed sydd yn laeth amrwd buchod i'w ddadansoddi a'i archwilio er mwyn gweld a yw'n cydymffurfio â'r darpariaethau yn y Rheoliadau hynny ynghylch meini prawf microbiolegol. Mae'r tâl yn yr achos hwnnw yn aros yn ddigyfnewid, sef £63 (rheoliadau 2 i 5).

Mae arfarniad rheoleiddiol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd - Cymru, Llawr Cyntaf, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EN .


Notes:

[1] 1990 p.16. Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28). Trosglwyddwyd swyddogaethau a frieniwyd yng Ngweinidogion y Goron mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] O.S. 1995/1122, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0-11-090106-1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 9 August 2000