Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1710 (Cy.116)

      Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090114-2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAUSTATUDOL


2000 Rhif 1710 (Cy.116)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 20 Mehefin 2000 
  Yn dod i rym yn unol â Rheoliad 1(1)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 132(4) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] ac a freinir bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym 14 diwrnod ar ol y dyddiad y'u gwneir.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygiadau
    
2.  - (1) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997[3] fel a bennir yn nhestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

    (2) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999[4]) fel a bennir yn nhestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

     3. Ni fydd y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â cheisiadau am grant a wnaed cyn 3 Ebrill 2000.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Mehefin 2000



ATODLEN
Rheoliad 2


DIWYGIADAU I'R FFURFLEN SY'N DWYN Y TEITL "CAIS AM GRANT ADLEOLI"


     1. Ar ôl cwestiwn 4.23, mewnosodwch - 

     4.23A Os ydych chi, neu'ch partner, ar hyn o bryd mewn cyflogaeth am dâl, ydych chi neu'ch parter yn cael yr isafswm cyflog gwladol am bob swydd a ddelir?

Chi Eich Partner
Ydwyf opensquare Ydyw opensquare
Nac Ydwyf opensquare Nac Ydyw opensquare

     4.23B Os ydych wedi ateb "Nac ydwyf/Nac ydyw" i gwestiwn 4.23A, a oes gennych chi neu'ch partner yr hawl i gael yr isafswm cyflog gwladol am bob swydd?

Nodyn 34A

Chi Eich Partner
Oes opensquare Oes opensquare
Nac Oes opensquare Nac Oes opensquare

     4.23C Os ydych wedi ateb "Nac oes" i gwestiwn 4.23B, dywedwch pam nad oes gennych chi neu'ch partner hawl i gael yr isafswm cyflog gwladol am bob swydd a ddelir:

Nodyn 34A










     2. Yng nghwestiwn 4.31

    -(a) ar ôl "Ysgoloriaethau ac addysgedau eraill etc: £
    £
    ",

         mewnosodwch "Nodyn 46B";

    (b) ar ôl "Benthyciad myfyrwyr: £
    ", mewnosodwch "Nodyn 46C"

     3 Yng nghwestiwn 4.34 yn lle "Nodiadau 50 a 50A" rhowch "Nodiadau 50, 50A a 50B".

     4. Yn y pennawd o flaen cwestiwn 4.36, ar ôl "grantiau myfyrwyr" mewnosodwch "neu fenthyciadau myfyrwyr", ac yng nghwestiwn 4.36, ar ôl "grant myfyriwr" mewnosodwch "neu fenthyciad myfyriwr".

     5. Ar ddiwedd nodyn 30, ychwanegwch:

     6. Ar ddiwedd nodiadau 31 a 32 ychwanegwch  - 

    " Byddwch cystal â chynnwys swm eich pensiwn p'un a delir ef i chi neu i berson arall. Nid oes rhaid i chi gynnwys swm eich pensiwn lle telir y cyfan ohono i'ch ymddiriedolwr mewn methdaliad neu i rywun arall ar ran eich credydwyr ar yr amod nad ydych chi neu aelod o'ch teulu yn cael unrhyw incwm ar wahân i'r taliad hwnnw.".

     7. Ar ôl nodyn 34, mewnosodwch  - 

         " 34A. Os nad ydych chi neu'ch partner yn gwybod a oes gennych hawl i gael y lleiafswm cyflog gwladol am unrhyw swydd, llenwch weddill y ffurflen a gofyn wedyn i Adran Dai y Cyngor pan fyddwch yn anfon eich cais i mewn.".

     8. Yn nodyn 45, ar ôl "Groes George" mewnosodwch - 

    " ndash;lwfans cynhaliaeth addysgol sy'n daladwy yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996[7] (talu costau ysgol; rhoi ysgoloriaethau etc.) neu unrhyw swm mewn perthynas â chwrs astudiaeth a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc sy'n daladwy yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996, adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980[8] (per i gynorthwyo personau i fanteisio ar gyfleusterau addysgol) neu adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (Yr Alban) 1992[9] (darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr).".

     9. Ar ôl nodyn 46A, mewnosodwch  - 

         " 46B. Peidiwch â chynnwys dyfarniad chwaraeon ac eithrio i'r graddau iddo gael ei wneud ar gyfer talu eich costau, neu gostau eich teulu, ar gyfer bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd neu rent cartref, neu ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau d r yr ydych chi neu y mae aelod arall o'ch teulu yn atebol amdanynt.

    Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau am fitaminau, mwynau neu unrhyw ychwanegiadau deietegol arbennig a fwriedir i wella'ch perfformiad yn y gamp y cafodd y dyfarniad ei wneud ar ei chyfer.

    Nid oes angen ychwaith i chi gynnwys unrhyw daliadau a wnaed am wisg ysgol neu ddillad neu esgidiau sydd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig.

         46C Dylech roi mwyafswm y benthyciad myfyriwr y gallech fod wedi'i gael, lle na chawsoch fenthyciad myfyriwr neu lle na chawsoch y mwyafswm.".

     10. Ar ôl nodyn 50A, mewnosodwch  - 

         " 50B Peidiwch â chynnwys dyfarniad chwaraeon a gawsoch lai na 26 wythnos yn ôl ac eithrio i'r graddau ei fod wedi'i wneud i dalu eich costau, neu gostau eich teulu, am fwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd neu rent cartref, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau d r yr ydych chi neu y mae aelod arall o'ch teulu yn atebol amdanynt.

    Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau am fitaminau, mwynau neu unrhyw ychwanegiadau deietegol arbennig a fwriedir i wella'ch perfformiad yn y gamp y cafodd y dyfarniad ei wneud ar ei chyfer.

    Nid oes angen ychwaith i chi gynnwys unrhyw daliadau a wnaed am wisg ysgol neu ddillad neu esgidiau sydd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig.".

     11. Yn nodyn 52, ar ôl "grant y myfyriwr" mewnosodwch "neu fenthyciad y myfyriwr".



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 ("Rheoliadau 1997") a'r Ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadiau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999 ("Rheoliadau 1999").

Mae Rheoliadau Grantiau Adleoli 1997 (O.S. 1997/2764) yn cymhwyso Rheoliadau Grantiau Adleoli Tai 1996 (O.S. 1996/2890) fel y maent yn effeithiol o bryd i'w gilydd, gyda'r addasiadau a ragnodwyd. Mae diwygiadau i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/ 973(Cy.43) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, wedi peri bod angen diwygio Rheoliadau 1997 a Rheoliadau 1999.


Notes:

[1] 1996 p.53; gall yr Ysgrifennydd Gwladol arfer y per o dan yr adrannau hyn mewn perthynas â Lloegr yn unig.back

[2] Gweler Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/2847; diwygiwyd gan O.S. 1998/810, O.S. 1999/1541 ac O.S. 1999/2625.back

[4] (ch) O.S. 1999/2315; diwygiwyd gan O.S. 1999/3469 (Cy.55)back

[5] 1998 p.38.back

[6] O.S. 1979/591; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1999/561.back

[7] 1996 p.56; amnewidiwyd adran 518 gan adran 129 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back

[8] 1980 p.44.back

[9] 1992 p.37.back



English version



ISBN 0-11-090114-2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 31 August 2000