Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090101 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 28F(1) a (2) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw: - Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2000. (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferwyr Meddygol) 1998[2]. (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio'r prif Reoliadau 2. Ar ddiwedd rheoliad 1 o'r prif reoliadau, mewnosodir y paragraff canlynol -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio 1998 ("y prif Reoliadau") sy'n ymwneud â hawl personau i ddewis y meddyg y maent yn dymuno cael gwasanaethau meddygol sylfaenol ganddo. Mae'r Rheoliadau yn peri bod y diwygiadau testunol i'r prif Reoliadau sydd wedi'u gwneud gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Dewis Ymarferydd Meddygol) Diwygio 1999 ("Rheoliadau 1999") ac sy'n gymwys yn Lloegr, yn effeithiol yng Nghymru. Mae Rheoliadau 1999 yn diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (dyrannu personau i feddygon) drwy ddiwygio'r darpariaethau ar gyfer Awdurdod Iechyd sy'n dyrannu claf i feddyg er mwyn i Awdurdod Iechyd gael rhoi ystyriaeth i gleifion sydd wedi bod yn dreisgar tuag at eu meddyg yn y gorffennol, er mwyn dewis meddyg gyda'r cyfleusterau mwyaf priodol. Mae Rheoliadau 1999 yn gwneud diwygiadau tebyg hefyd i Reoliad 5 o'r prif Reoliadau, sy'n ymwneud â dyrannu claf i feddyg gan "pilot scheme provider" (darparydd cynllun peilot). Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26 (2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Mewnosodwyd adran 28F gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), adran 23(1). Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a (mewn perthynas â Lloegr) Deddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 28F, a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo).back
ISBN 0 11 090101 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 8 August 2000 |