Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1422 (Cy.102)

      Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) Diwygio (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) Diwygio (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090082-0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1422 (Cy.102)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) Diwygio (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 30 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:-

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) 1989[
2].

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau
     2. Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, lle mae'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (1) (y mae ei chynnwys wedi'i nodi yng ngholofn (2)), rhoddir y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4).

Darpariaethau trosiannol
    
3. Os, ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny-

    (a) y bydd unrhyw offer a bennir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau yn cael ei gyflenwi yn unol ag archeb a roddir cyn y dyddiad hwnnw; neu

    (b) y bydd unrhyw dystysgrif ragdalu yn cael ei rhoi o dan reoliad 8 o'r prif Reoliadau yn unol â chais o dan y rheoliad hwnnw a gafwyd cyn y dyddiad hwnnw,

bydd y prif Reoliadau yn cael effaith mewn perthynas â chyflenwi'r offer neu, yn ôl y digwydd, rhoi'r dystysgrif fel pe na bai rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn wedi dod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mawrth 2000



ATODLEN

SYMIAU A AMNEWIDIR YN Y PRIF REOLIADAU


(1) (2) (3) (4)
Y ddarpariaeth yn y prif Reoliadau Cynnwys Yr hen swm Y swm newydd
Rheoliad 3-- Cyflenwi cyffuriau ac offer gan -    
  fferyllwyr-    
paragraff (1)(a) y ffi am hosanau elastig-    
  fesul eitem £5.90 £6.00
fesul pâr £11.80 £12.00
paragraff (1)(c) y ffi am gyffuriau, ac am offer sydd  
  heb eu pennu ym mharagraff (1)(a) £5.90 £6.00
paragraff (3) y ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn £5.90 £6.00
Rheoliad 4-- Cyflenwi cyffuriau ac offer gan feddygon-    
paragraff (1)(a) y ffi am hosanau elastig-    
  fesul eitem £5.90 £6.00
  fesul pâr £11.80 £12.00
paragraff (1)(b) y ffi am gyffuriau, ac am offer sydd £5.90 £6.00
  heb eu pennu ym mharagraff (1)(a) £5.90 £6.00
paragraff (3) y ffi am gyffuriau sy'n cael eu £5.90 £6.00
Regulation 5-- Cyflenwi cyffuriau ac offer i gleifion    
  allanol gan Awdurdodau Iechyd ac    
  Ymddiriedolaethau NHS-    
paragraff (1)(a) y ffi am hosanau elastig-    
  fesul eitem £5.90 £6.00
  fesul pâr £11.80 £12.00
paragraff (1)(c) y ffi am drywsanau £11.80 £12.00
paragraff (1)(d) y ffi am gyffuriau ac am offer sydd or (1)(c), or in Schedule 1 £5.90 £6.00
paragraff (3) y ffioedd am gyffuriau sy'n cael eu £5.90 £6.00
  cyflenwi fesul tipyn    
Rheoliad 8(5)- tystysgrif ragdalu-    
  4 mis £30.80 £31.40
  12 mis £84.60 £86.20
  y ffioedd a godir am staesiau ffabrig a gwallt gosod-  
       
Atodlen 1- bronglwm llawfeddygol- £19.95 £20.30
  staes abdomenol neu staes y cefn £29.95 £30.50
  gwallt gosod modacrylig stoc £49.00 £49.90
  gwallt gosod rhannol ddynol £129.00 £131.50
  gwallt gosod dynol llawn wrth fesur £188.50 £192.00



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) 1989 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am gyffuriau ac offer sy'n cael eu cyflenwi gan feddygon a fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol, a chan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gleifion allanol.

Mae'r diwygiadau a wneir i'r prif Reoliadau gan reoliad 2 a'r Atodlen yn codi'r ffi am eitemau ar bresgripsiwn neu sy'n cael eu cyflenwi i gleifion allanol o £5.90 i £6.00. Codir y ffi am hosanau elastig o £5.90 i £6.00 yr un (o £11.80 i £12.00 y pâr) a'r ffi am drywsanau o £11.80 i £12.00. Codir y ffioedd am wallt gosod rhannol ddynol a gwallt gosod modacrylig o £129.00 i £131.50 ac o £49.00 i £49.90 yn ôl eu trefn. Codir y ffi am wallt gosod dynol llawn o £188.50 i £192.00. Codir y ffi am staesiau ffabrig o £29.95 i £30.50. Codir y symiau a ragnodir ar gyfer rhoi tystsygrifau rhagdalu o £30.80 i £31.40 am dystysgrif bedwar-mis ac o £84.60 i £86.20 am dystysgrif ddeuddeng-mis.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud trefniadau trosiannol hefyd yn rheoliad 3 yngln â thystysgrifau rhagdalu y gwnaed cais amdanynt ac offer a archebwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990") adran 26(2)(g) ac (i), am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] O.S. 1989/419; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/537, 1991/579, 1992/365, 1993/420, 1994/690, 1994/2402, 1995/643, 1995/2737, 1996/583, 1997/559, 1998/491, 1998/646, 1999/767.back

[3] 1998 p.38.back


English version



ISBN 0-11-090082-0


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 21 July 2000