Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1323 (Cy.101)

      Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090092-8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1323 (Cy.101)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 19 Ebrill 2000 
  Yn dod i rym 1 Mai 2000 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

     1. -

    (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Mai 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Drwy hyn diddymir rheoliad 10 o Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach) 1981[
3].

     2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

    ystyr "dosbarth meithrin" ("nursery class") yw dosbarth sydd wrthi yn bennaf yn darparu addysg amser-llawn neu ran-amser sy'n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;

    ystyr "y flwyddyn ysgol" ("school year") yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n diweddu gyda dechrau'r tymor ysgol cyntaf sy'n dechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol; ac

    ystyr "ysgol" ("school") yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, neu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol.

     3. -

    (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhennir pob diwrnod y mae ysgol yn cyfarfod yn ddwy sesiwn a wahenir gan egwyl yng nghanol y dydd oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn peri nad yw hyn yn ddymunol.

    (2) Rhaid cynnal o leiaf 380 o sesiynau mewn ysgol yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol ond er hynny nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddosbarth meithrin gyfarfod am y nifer hwnnw o sesiynau.

    (3) Pan rwystrir ysgol ar unrhyw adeg rhag cyfarfod am un neu fwy o sesiynau y bwriadwyd iddi gyfarfod, ac nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud trefniadau iddi gyfarfod ar adeg wahanol ar gyfer y sesiynau hynny, ymdrinnir â'r ysgol at ddibenion paragraff (2) fel pe bai wedi cyfarfod yn unol â'r bwriad.

    (4) Ar bob diwrnod y bydd ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin yn cyfarfod rhaid darparu o leiaf deirawr o weithgareddau addas:

    (5) Mewn ysgol sy'n cyfarfod ar chwe diwrnod o'r wythnos gall fod ar ddau o'r dyddiau hynny un sesiwn yn unig.

    
4. -

    (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fydd sesiwn ysgol yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2001 wedi'i neilltuo yn llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 3 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol honno.

    (2) Mae paragraff (1) yn gymwys i hyfforddiant sy'n ymwneud â gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol neu strwythurau staffio ysgol.

    (3) Mae paragraff (1) yn effeithiol mewn perthynas â chyfanswm o chwe sesiwn ysgol yn unig, a phan fydd mwy na phedair sesiwn ysgol wedi'u neilltuo yn ystod y cyfnod a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo ar gyfer athrawon yn yr ysgol, y mae'n rhaid i ddwy o'r sesiynau hynny o leiaf fod yn y flwyddyn ysgol 2000-2001.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Ebrill 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn disodli rheoliad 10 o Reoliadau Addysg (Ysgolion ac Addysg Bellach) 1981 mewn perthynas â Chymru yn unig.

Mae Rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol.

Mae Rheoliad 4 yn darparu na cheir trin mwy na chwe sesiwn ysgol a neilltuwyd ar gyfer hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol neu strwythurau staffio ysgol yn ystod y cyfnod 1 Mai 2000 i 31 Gorffennaf 2001 fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol. Pan neilltuir mwy na phedair sesiwn ysgol i hyfforddiant o'r fath yn ystod y cyfnod hwnnw rhaid i o leiaf ddwy fod yn y flwyddyn ysgol 2000-2001.


Notes:

[1] 1996 p.56; mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Am ystyr "regulations" gweler adrani 579(1).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1981/1086; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1987/879, 1990/2259 a 1998/2792.back

[4] 1998 p.38.back


English version



ISBN 0-11-090092-8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 4 August 2000