Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1271 (Cy.97)

      Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090093 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1271 (Cy.97)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 22 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(2) a (4), 6(2) a (3), 7(6) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1]:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "dangosydd perfformiad" ("performance indicator") yw ffactor y mae'n rhaid cyfeirio ato i fesur perfformiad awdurdod gwerth gorau wrth iddo arfer swyddogaeth fel y'i pennir o bryd i'w gilydd naill ai gan orchymyn a wneir o dan adran 4(1)(a) neu gan awdurdod gwerth gorau yn unol â chanllawiau a roddir o dan adran 5(6)(a) o'r Ddeddf;

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1999;

    ystyr "safon berfformiad" ("performance standard") yw'r lefel isaf o wasanaeth a ddarperir sy'n dderbyniol ac y mae rhaid i awdurdod gwerth gorau ei chyrraedd wrth arfer swyddogaeth, a hynny'n cael ei fesur drwy gyfeirio at ddangosydd perfformiad ar gyfer y swyddogaeth honno, fel y'i pennir o bryd i'w gilydd gan orchymyn a wneir o dan adran 4(1)(b) o'r Ddeddf;

    ystyr "targed perfformiad" ("performance target") yw'r lefel o berfformiad wrth arfer swyddogaeth y disgwylir i awdurdod gwerth gorau ei chyrraedd, dros gyfnod o flwyddyn o leiaf, a hynny'n cael ei fesur drwy gyfeirio at ddangosydd perfformiad mewn perthynas â'r swyddogaeth honno, fel y'i pennir o bryd i'w gilydd gan orchymyn a wneir o dan adrannau 5(6)(b) a (7)o'r Ddeddf.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rhai a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf.

Cyfnod yr adolygiadau gwerth gorau
    
2. Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gynnal adolygiad gwerth gorau o'u holl swyddogaethau erbyn 31 Mawrth 2005 a rhaid iddynt gynnal adolygiad gwerth gorau pellach o'u holl swyddogaethau erbyn diwedd pob cyfnod dilynol o bum mlynedd.

Cynnwys adolygiadau gwerth gorau
    
3. Wrth gynnal adolygiad gwerth gorau, rhaid i awdurdod gwerth gorau: - 

Cynnwys cynlluniau perfformiad gwerth gorau
    
4. Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gynnwys y materion canlynol yn eu cynlluniau perfformiad gwerth gorau - 

Y dyddiad ar gyfer cyhoeddi'r cynlluniau perfformiad gwerth gorau
    
5. Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynlluniau perfformiad ar gyfer blwyddyn ariannol erbyn 30 Mehefin o'r flwyddyn y mae'r cynlluniau yn berthnasol iddi.

Y dyddiad ar gyfer anfon copïau o adroddiadau archwilwyr
    
6. Rhaid i gopïau o adroddiadau'r archwilwyr yngln â chynlluniau gwerth gorau gael eu hanfon yn unol ag adran 7(5) o'r Ddeddf erbyn 31 Hydref o'r flwyddyn y mae'r cynlluniau yn berthnasol iddynt.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Mawrth 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau ac i baratoi cynllun perfformiad gwerth gorau ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Bwriedir pennu drwy orchymyn a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y cyfnod y mae'n rhaid i awdurdod yng Nghymru (ac eithrio un a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf) adolygu pob un o'i swyddogaethau ynddo, y materion y mae'n rhaid i'r awdurdod hwnnw eu cynnwys yn yr adolygiad a'r materion y mae rhaid i'r awdurdod hwnnw eu cynnwys mewn cynllun perfformiad gwerth gorau ar gyfer blwyddyn ariannol. Gall Cynullaid Cenedlaethol Cymru hefyd bennu drwy orchymyn cyn pa ddyddiad y mae rhaid i awdurdod gyhoeddi ei gynllun perfformiad ar gyfer blwyddyn ariannol a'r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid anfon copïau o adroddiad archwilydd yngln â'r cynllun hwnnw at yr awdurdod, y Comisiwn Archwilio ac, os oes gofyn, at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r cyfnod adolygu gwerth gorau, y materion y mae'n rhaid eu cynnwys mewn adolygiad o'r fath, y materion y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cynllun perfformiad gwerth gorau, cyn pa ddyddiad y mae rhaid cyhoeddi cynllun awdurdod ar gyfer blwyddyn ariannol a'r dyddiad erbyn pryd y dylai copïau o adroddiad archwilydd gael eu hanfon.


Notes:

[1] 1999 p.27.back

[2] 1998 p.38.back


English version



ISBN 0 11 090093 6


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 4 August 2000