Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr-Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston-Redberth) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr-Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston-Redberth) 2000, ISBN 0 11 090065 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 10 a 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980[1] a phob pwer galluogi arall[2]:- 1. Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym. 2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd. 3. Mewn perthynas ag unrhyw ran o briffordd sy'n croesi llwybr y gefnffordd newydd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cyfarwyddo:
b. lle nad yw'r briffordd yn briffordd y gellir ei chynnal felly ac na ellir ei chynnal ychwaith o dan ddeddfiad penodol neu oherwydd deiliadaeth, cau neu ragnodi, na fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan unrhyw ddyletswydd i gynnal y rhan o dan sylw.
4.
Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chânt eu dosbarthu fel ffyrdd dobarthiadol o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n hysbysu Cyngor Sir Penfro fod y gefnffordd newydd ar agor i draffig drwodd.
6.
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Mai 2000 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr - Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston - Redberth) 2000. The route of the new trunk road is a route at Milton, Sageston and Redberth in the County of Pembrokeshire about 4.80 kilometres in length starting at a point on the existing Trunk Road about 260 metres west of its junction with the A4075 then going in a northeasterly direction to a point on the existing Trunk Road about 110 metres southwest of its junction with the C3129. 1. Y darn hwnnw o'r gefnffordd a leolir rhwng pwynt rhyw 10 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â'r A4075 a farciwyd ag A ar y plan a adneuwyd a phwynt rhyw 210 metr i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 a farciwyd â B ar y plan a adneuwyd. 2. Y darn hwnnw o'r gefnffordd a leolir rhwng pwynt rhyw 475 metr i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 a farciwyd ag C ar y plan a adneuwyd a phwynt rhyw 275 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â'r C3129 a farciwyd â D ar y plan a adneuwyd. Notes: [1] 1980 p.66back [2] Yn rhinwedd O.S. 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, rhoddwyd y pwerau hyn bellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.back
ISBN 0 11 090065 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 27 June 2000 |