Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1169 (Cy. 94 )

      Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090050 2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1169 (Cy. 94 )

CAFFAEL TIR, CYMRU CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 11 Ebrill 2000 
  Yn dod i rym 12 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladaol gan adrannau 149(3)(a) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1] ac adrannau 143 a 147 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[2], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3] a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw -

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 12 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Terfyn y gwerth blynyddol
    
2. £24,600 yw'r swm a ragnodir ar gyfer dibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Diddymu
    
3. Diddymir drwy hyn Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) 1990[4] i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Ebril 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau hysbysu malltod yn adrannau 149 i 171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ("y Ddeddf") yn galluogi personau â buddiannau penodol mewn categorïau o dir, a bennir yn Atodlen 13 i'r Ddeddf (gan gynnwys tir yr effeithir arno gan gynigion cynllunio a phriffyrdd penodol), i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol gaffael eu buddiant yn y tir. Un o'r buddiannau mewn tir sy'n gymwys i gael ei ddiogelu yw buddiant perchennog-feddiannydd hereditament (sy'n golygu hereditament perthnasol o fewn ystyr adran 64(4)(a) i (c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988) lle nad yw gwerth blynyddol yr hereditament yn fwy na'r swm y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ei ragnodi (adran 149(3)(a) o'r Ddeddf). Breiniwyd y per hwnnw bellach, i'r graddau y mae'n arferadwy yn Nghymru, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu'r terfyn gwerth blynyddol hwnnw o £18,000 i £24,600 er mwyn cymryd ailbrisio'r ardrethu yn y flwyddyn 2000 i ystyriaeth.

Yn wreiddiol, gwnaed Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) 1990 o dan bwerau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1971. Ymgorfforwyd Erthyglau 2 a 3 y gorchymyn, fel y'u gwnaed, yn y Ddeddf ac, o ganlyniad, mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) 1990 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.


Notes:

[1] 1990 p.8.back

[2] 1988 p.41.back

[3] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4 o O.S. 2000/253 (W.5) ac Atodlen 3 iddi.back

[4] O.S. 1990/465.back

[5] 1998 p.38.back


English version



ISBN 0 11 090050 2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 23 May 2000