Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2000, ISBN 0-11-090086-3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y p er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 18(3) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975[1], sydd bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru [2]:Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2000 a daw i rym ar 12 Ebrill 2000. Cynnydd yn y terfyn ariannol 2. At ddibenion adran 18(3) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (cyllid yr Awdurdod) pennir y terfyn yn £2,000 miliwn. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D.Elis Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 6 Ebrill 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Corff Cyhoeddus gweithredol a Noddir gan y Cynulliad yw Awdurdod Datblygu Cymru. Cafodd ei sefydlu gan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 er mwyn hybu datblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru, hyrwyddo effeithlonrwydd mewn busnes a chystadleurwydd rhyngwladol yng Nghymru a hybu gwelliannau yn amgylchedd Cymru. Mae isadran 18(3) o Ddeddf 1975 yn pennu terfyn ariannol yr Awdurdod, ac yn darparu i'r terfyn hwnnw gael ei gynyddu drwy gyfrwng gorchymyn. Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu'r terfyn o £1,350 miliwn i £2,000 miliwn. Notes: [1] 1975 (p.70); diwygiwyd adran 18 gan adran 1 o Ddeddf Diwydiant 1979 (p. 32), gan adrannau 5(1) a 21 ac Atodlen 2 i Ddeddf Diwydiant 1980 (p. 33), a chan adran 1 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1997 (p. 37).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0-11-090086-3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 15 August 2000 |