Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1142 (Cy.80)

      Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090070-7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1142 (Cy.80)

GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 31 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 9(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 [1] a phob p er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn hyn o beth, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], gyda chydsyniad y Trysorlys[3], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. -

    (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 31 Mawrth 2000.

    (2) Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cyfalaf Cychwynnol Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol
    
2. Cyfalaf cychwynnol ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen fydd y swm a bennir gyferbyn â hi yng ngholofn 2 o'r Atodlen.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4] .


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mawrth 2000



Cydsyniwn,


Clive Betts

Bob Ainsworth
Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi

31 Mawrth 2000



{t} {nt} cols="c2"}Adran2
Colofn 1Colofn 2YMDDIRIEDOLAETH GIGCYFLAF CYCHWYNNOLBro Morgannwg£94,389,000Cymunedol Caerdydd a'r Cylch£36,319,000Sir Gaerfyrddin£42,707,000Conwy a Sir Ddinbych£71,828,000Gofal Iechyd Gwent£176,884,000Gogledd-ddwyrain Cymru£75,685,000Gogledd-orllewin Cymru£82,799,000Pontypridd a Rhondda£89,435,000Abertawe£141,884,000Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche£150,199,000Gwasanaethau Ambiwlans Cymru£19,901,000

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn penderfynu swm cyfalaf gwreiddiol rhai ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan y Ddeddf honno, sef cyfalaf gwreiddiol y darperir ar ei gyfer yn adran 9 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990.


Notes:

[1] 1990 p.19. Diwygiwyd adran 9 (1) gan adran 15 o'r Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 9 (1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 ("Deddf 1990") i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) ("y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau").back

[3] Gweler adran 9(8) o Ddeddf 1990. Mae'r cydsyniad y mae ei angen oddi wrth y Trysorlys wedi'i gadw yn unswydd gan Atodlen 1 i'r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau.back

[4] 1998 p. 38.back


English version



ISBN 0-11-090070-7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 13 July 2000