Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090090 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, a phob p er arall a oedd yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw, a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol:Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. Tybiaethau rhagnodedig am beiriannau a pheirianwaith 2. At ddibenion penderfynu gwerth ardrethol hereditament am unrhyw ddiwrnod ar 1 Ebrill 2000 neu wedi hynny, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988-
(ii) nid oes gan werth unrhyw beiriannau a pheirianwaith arall unrhyw effaith ar y rhent sydd i'w amcangyfrif yn unol â gofynion paragraff 2(1); a
(b) mewn perthynas ag unrhyw hereditament arall, y dybiaeth ragnodedig yw nad oes gan werth unrhyw beiriannau neu beirianwaith unrhyw effaith ar y rhent sydd i'w amcangyfrif felly.
Rhoi manylion ysgrifenedig DOSBARTH 1 Y peiriannau a'r peirianwaith (heblaw peiriannau a pheirianwaith a eithrir) a bennir yn Nhabl 1 isod (ynghyd ag unrhyw gyfarpar a strwythurau sy'n ategol i'r peiriannau neu'r peirianwaith hynny ac a bennir yn y Rhestr Ategolion a nodir isod) a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig mewn cysylltiad â chynhyrchu p er, storio p er, y newid p er yntaf neu â'r prif drosglwyddiad p er yn yr hereditament neu arno.Yn y Dosbarth hwn -
er trydan i wasgedd neu amledd neu ffurf arall ar gerrynt, ac eithrio unrhyw beiriannau o'r fath sy'n ffurfio rhan annatod o eitem o beiriannau neu beirianwaith sydd yn yr hereditament neu arno ar gyfer gweithrediadau gweithgynhyrchu neu brosesau masnachu;(b) ystyr "newid p er cyntaf" yw newid p er trydan mewn unrhyw ffordd drwy gyfrwng newidydd ar unrhyw bwynt yn y prif drosglwyddiad p er;(c) ystyr "prif drosglwyddiad p er" yw pob trosglwyddiad p er o'r peiriannau cynhyrchu neu o'r pwynt cyflenwi yn yr hereditament neu arno hyd at a chan gynnwys -
er trydan, y bwrdd dosbarthu cyntaf;(ii) yn achos trosglwyddiad ag echel neu olwynion, unrhyw ysgogiad gyriant-echel neu yriant-olwyn oddi wrth y pen-symudydd; (iii) yn achos p er hydrolig neu niwmatig, y pwynt lle mae'r prif gyflenwad yn darfod, heb gynnwys unrhyw gangen o bibell wasanaethu sy'n gysylltiedig â phrif gyflenwad o'r fath;(iv) mewn achos lle caiff p er ei drosglwyddo i hereditament arall, heb iddo fel arall basio y tu hwnt i derfynau'r prif drosglwyddiad p er, y pwynt lle mae'r p er yn pasio o'r hereditament; a
(ch) ystyr "peiriannau a pheirianwaith a eithrir" yw peiriannau a pheirianwaith ar hereditament a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu, storio, newid neu drosglwyddo p
TABL 1
r porthi; cynilyddion; cronaduron; dadawyryddion; tanciau chwythu ymaith; retortau nwy a chyfarpar trydanu; cynyrchyddion a generaduron.(b) Injenni stêm; tyrbinau stêm, tyrbinau nwy; injenni mewndanio; injenni aer-poeth; injenni bario. (c) Dynamos cerrynt parhaus a dynamos cerrynt eiledol; cyplynnau i injenni a thyrbinau; offer cyffroi meysydd; cydbwysyddion tair-gwifren neu gydbwysyddion cydweddau. (ch) Batris storio â standiau ac ynysyddion, switsys rheoli, cyfnerthwyr a chysylltiadau sy'n ffurfio rhan o unrhyw offer felly. (d) Newidyddion statig; newidyddion awto; generaduron modur; trawsnewidwyr modur; trawsnewidwyr amdro; transfertyddion; unionwyr; trawsnewidwyr cydweddau; newidwyr amledd. (dd) Ceblau a dargludyddion; switsfyrddau, byrddau dosbarthu, paneli rheoli a'r holl switsgêr a chyfarpar arall ar unrhyw offer o'r fath. (e) Olwynion d r; tyrbinau d r; ramiau; injenni llywodraethu; fflodiardau; goferydd; tanciau ymchwydd; cwndidau; cafnau; llifddorau.(f) Injenni pwmpio ar gyfer p er hydrolig; injenni hydrolig; dwysyddion hydrolig; cronaduron hydrolig.(ff) Cywasgyddion aer; injenni aer cywasg. (g) Melinau gwynt. (ng) Echelau, cyplyddion, cydwyr, tröellyriannau, pwlïau ac olwynion. (h) Moduron stêm neu foduron eraill a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig ar gyfer gyrru unrhyw beiriannau a pheirianwaith o fewn y Dosbarth hwn. (i) Ero-generaduron; tyrbinau gwynt. (j) Batris haul; paneli haul.
DOSBARTH 2
Unrhyw rai o'r peiriannau a pheirianwaith a bennir yn Nhabl 1 ac unrhyw foduron a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig ar gyfer gyrru unrhyw rai o'r peiriannau a pheirianwaith o fewn paragraffau (b) i (dd) o'r Tabl hwn. (b) GWRESOGI, OERI AC AWYRU
r.(ii) Talcenni a maniffoldiau; falfiau gostwng gwasgedd stêm; caloriffyddion; rheiddiaduron; paneli gwresogi; ffwrneisi aer poeth â dwythellau a rhwyllau dosbarthu. (iii) Rheolyddion gwasgedd nwy; llosgwyr nwy; twymyddion a rheiddiaduron nwy a'r ffliwiau a'r simneiau a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw offer o'r fath. (iv) Socedi plygiau ac allanfeydd eraill; twymyddion trydan. (v) Peiriannau oeri. (vi) Sgriniau d r; chwistrellyddion d r.(vii) Ffaniau a chwythwyr. (viii) Derbynfeydd aer, sianeli, dwythellau, rhwyllau, lwfrau ac allanfeydd. (ix) Peiriannau ar gyfer hidlo, golchi, sychu, cynhesu, oeri, lleithio, disawru a phersawru, ac ar gyfer triniaethau bacteriolegol a chemegol ar gyfer aer. (x) Pibellau a choiliau pan ddenyddir hwy i beri symud neu gynorthwyo symud aer.
(c)
GOLEUO
(ii) Socedi plygiau ac allanfeydd eraill; lampau trydan.
(ch)
TRAENIO
RHESTR ATEGOLION
(ii) peiriannau cyddwyso stêm, cywasgwyr, dihysbyddwyr, silindrau a llestri storio, ffaniau, pympiau ac alldaflwyr, cyfarpar trin lludw; (iii) teithwyr a chraeniau; (iv) systemau iro; systemau daearu; systemau oeri; (v) pibellau, dwythellau, falfiau, trapiau, gwahanwyr, hidlwyr, oeryddion, sgriniau, cyfarpar puro a thriniaethau eraill, anweddyddion, tanciau, blychau gwacáu a thawelyddion, wasieri, sgwrwyr, cyddwysyddion, twymyddion aer a dirlenwyr aer; (vi) beltiau, rhaffau, cadwyni a chynheiliaid ar gyfer echelydd; (vii) ceblau, dargludyddion, gwifrau, pibelli, tiwbiau, cwndidau, casinau, polion, cynheiliaid, ynysyddion, blychau cyswllt a blychau terfyn; (viii) offer a chyfarpar sydd ynghlwm wrth y peiriannau a'r peirianwaith, gan gynnwys cyfrifiaduron, mesuryddion, medryddion, offer mesur a chofnodi, rheolyddion awtomatig neu reolyddion wedi'u rhaglennu, dangosyddion tymheredd, larymau a relaiau.
DOSBARTH 3
er), ac offer perthnasol a feddiennir ynghyd â'r llinellau a'r cledrau hynny;Yn y paragraff hwn, ystyr 'offer perthnsasol' yw -
(ii) sliperi, gosodiadau a ffitiadau; (iii) byfferau, croesfâu a phwyntiau; (iv) cynheiliaid gwifrau p er a nenbontydd gwifrau p er;(v) nenbontydd signalau; a (vi) rhwystrau, clwydi a chroesfannau.
(b) lifftiau, codwyr, dirwynlathau, grisiau symudol a llwybrau symudol;
(ii) a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn cysylltiad â throsglwyddo, dosbarthu neu gyflenwi o'r fath,
heblaw'r eitemau hynny neu'r rhannau o'r eitemau hynny sydd neu a gynhwysir mewn offer a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig ar gyfer switsio neu newid trydan;
(ii) ystyr "prosesu signalau cyfathrebu" yw trawsnewid un math o signal cyfathrebu yn fath arall, neu gyfeirio signalau cyfathrebu drwy switsio; (iii) mae "offer a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer prosesu signalau cyfathrebu" yn cynnwys
- rhan honno o unrhyw gebl, ffibr, gwifren neu ddargludydd cysylltiol sy'n ymestyn o'r gyffordd neu'r ffrâm ddosbarthu neu derfynu olaf hyd at bwynt y trawsnewid neu'r switsio;
(dd) polion, pyst, tyrau, mastiau, rheiddiaduron mast, pibellau, dwythellau a chwndidau ac unrhyw gynheiliaid a sylfeini cysylltiol, a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r eitemau a gynhwysir yn (d) uchod;
(ii) yn biblinell sy'n ffurfio rhan o offer tir ac adeiladau perthnasol ac a leolir yn gyfan gwbl oddi mewn iddynt;
ynghyd ag unrhyw offer perthnasol a feddiennir gyda'r biblinell; a lle mae piblinell yn ffurfio rhan o offer tir ac adeiladau perthnasol ac y'i lleolir yn rhannol o fewn ac yn rhannol y tu allan iddynt, ac eithrio -
ond heb eithrio cymaint o'r biblinell ag sy'n cynnwys y falf reoli gyntaf neu'r olaf fel y bo'r achos.
(ii) falfiau a rheolyddion llif; (iii) mesuryddion, pympiau a chywasgwyr aer (gan gynnwys y moduron a gynhwysir yn unrhyw offer o'r fath) a (iv) cyfarpar sy'n rhoi amddiffyniad cathodig i bibell neu systemau o bibelli;
(ii) ystyr "mwynglawdd" ac ystyr "chwarel" yw'r ystyron a roddir i "mine" a "quarry" yn Neddf Mwyngloddiau a Chwareli 1954[5]; (iii) ystyr "maes mwynau" yw ardal sy'n cynnwys cloddfa sef ffynnon neu dwll turio neu ffynnon a thwll turio gyda'i gilydd, neu system o gloddfeydd felly, a ddefnyddir er mwyn pwmpio neu godi heli neu olew neu i dynnu nwy naturiol neu nwy tirlenwi, a chymaint o'r arwynebedd (gan gynnwys adeiladau, strwythurau a gweithfeydd arno) sy'n amgylchynu neu'n cyffinio â'r gloddfa neu'r system ag a feddiennir, ynghyd â'r gloddfa neu'r system, at ddibenion gweithio'r gloddfa neu'r system; (iv) mae "storfa nwy naturiol neu gyfleuster prosesu" yn cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir neu y bwriedir eu defnyddio yn bennaf neu yn unig ar gyfer prosesu, storio neu newid gwasgedd nwy naturiol; (v) ystyr "depo storio petrolewm" yw tir ac adeiladau a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer storio petrolewm neu gynhyrchion petrolewm (gan gynnwys cemegau sy'n deillio o betrolewm) neu ddeunyddiau a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu cynhyrchion petrolewm (gan gynnwys cemegau sy'n deillio o betrolewm);
(f) dorau dociau a lociau, a chesonau.
DOSBARTH 4
(b) unrhyw ran o eitem o'r fath nad yw'n ffurfio rhan annatod o eitem o'r fath gan nad yw'n adeilad neu strwythur neu gan nad yw o natur adeilad neu strwythur; (c) cymaint o unrhyw leinin rhag tân neu leinin arall sy'n ffurfio rhan o unrhyw beiriannau neu beirianwaith a adnewyddir fel arfer, yn sgil ei ddefnydd normal ar ôl cyfnod o lai na hanner cant o wythnosau; (ch) unrhyw eitem yn Nhabl 4 nad yw ei chynhwysedd ciwbig (o'i mesur yn allanol gan hepgor sylfeini, gosodiadau, cynheiliaid ac unrhyw beth nad yw'n rhan annatod o'r eitem) yn fwy na phedwar can metr ciwbig ac y gellir ei symud yn rhwydd o un safle a'i hailgodi yn ei chyflwr gwreiddiol ar safle arall heb chwalu'n sylweddol unrhyw strwythur sy'n ei hamgylchynu.
TABL 3
Pontydd, twneli, leininau twneli, cynheiliaid twneli a thraphontydd. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu, gydag effaith o 1 Ebrill 2000 ymlaen, Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) 1994 ac yn eu disodli â darpariaethau sy'n adlewyrchu argymhellion a geir yn Adroddiad y Pwyllgor Ymgynghorol Arbenigol a gadeiriwyd gan Mr Derek Wood CBE CF (Cm 4283). Adolygodd y Pwyllgor ardrethu peiriannau a pheirianwaith gyda golwg ar ei ddiweddaru a'i gysoni ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r Rheoliadau, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn pennu'r peiriannau a'r peirianwaith y tybir o 1 Ebrill 2000 ymlaen eu bod yn rhan o hereditament at ddibenion prisio ar gyfer ardrethu annomestig. Notes: [1] 1988 p.41. Diwygiwyd paragraff 2(8) o Atodlen 6 gan baragraff 38(8) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Gweler adran 146(6) ar gyfer y diffiniad o 'prescribed'. Datganolwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1.back
[2]
O.S. 1994/2680, sy'n parhau effaith Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) 1989 (O.S. 1989/441) yngl
ISBN 0 11 090090 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 4 August 2000 |