Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090062 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 160(4), 161(2) a (3), 162(4) a 163(7) o Ddeddf Tai 1996[1] a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Cymhwysedd ar gyfer dyrannu Llety Tai 2. Bydd Rheoliadau 3, 4, 5, 6, 7 ac 8 o Reoliadau Dyrannu Tai (Lloegr) 2000[3] yn cael effaith yng Nghymru a bydd i'r mynegiadau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hynny yr un ystyr ag a roddir iddynt gan Reoliad 2 o'r Rheoliadau hynny. Diddymu 3. Diddymir y Rheoliadau canlynol mewn perthynas â Chymru -
(b) Rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) 1997[5]; (c) Rheoliad 2 o Reoliadau Dyrannu a Digartrefedd (Diwygio) (Rhif 2) 1997 [6].
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rhan VI o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996") yn ymwneud â dyrannu llety tai gan awdurdodau tai lleol. O dan adran 160 o Ddeddf 1996 caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi achosion nad yw darpariaethau Rhan VI yn gymwys iddynt. O dan adran 161 o Ddeddf 1996 gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi dosbarthiadau o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 ond sy'n gymwys hefyd i ddyraniad llety tai. O dan yr adran hon caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi hefyd dosbarthiadau eraill o bersonau sy'n gymwys, neu ddosbarthiadau o bersonau nad ydynt yn gymwys. O dan adran 162 o Ddeddf 1996 caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi gwybodaeth sy'n rhaid ei gynnwys mewn cofrestr tai gan awdurdod tai lleol. O dan adran 163 o Ddeddf 1996 caiff y Cynulliad Cenedlaethol ragnodi yr hyn sy'n rhaid i awdurdod tai lleol ei wneud cyn arddel ei ddisgresiwn i dynnu rhywun oddi ar eu cofrestr tai. Mae Rheoliadau Dyrannu Tai (Lloegr) 2000 yn rhagnodi achosion at ddibenion adran 160 ac yn rhagnodi dosbarthiadau at ddibenion adran 161. Maent hefyd yn rhagnodi gwybodaeth at ddibenion adran 162 ac yn rhagnodi gofynion at ddibenion adran 163. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod y darpariaethau hynny yn Rheoliadau Dyrannu Tai (Lloegr) 2000 yn cael effaith yng Nghymru, ac mewn perthynas â Chymru yn diddymu Rheoliadau Dyrannu Tai 1996 a Rheoliadau a'i diwygiodd. Notes: [1] 1996. p.52.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672).back [4] O.S. 1996/2753; diwygiwyd gan O.S. 1997/631 a 1997/2046.back
ISBN 0 11 090062 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 1 June 2000 |