Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1079 (Cy. 72)

      Rheoliadau Digartrefedd


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Digartrefedd, ISBN 0 11 090046 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1079 (Cy. 72)

TAI, CYMRU (Cymru) 2000

Rheoliadau Digartrefedd

  Wedi'u gwneud 30 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 185(2) a (3), 194(6) a 198(4) o Ddeddf Tai 1996 [1] ac a freiniwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol bellach i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru [2].

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cymhwyster ar gyfer cymorth tai
    
2. Bydd Rheoliadau 3, 4, 5 a 6 o Reoliadau Digartrefedd (Lloegr) [3] yn cael effaith yng Nghymru a bydd i'r mynegiadau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hynny yr un ystyr ag a roddir iddynt gan Reoliad 2 o'r Rheoliadau hynny.

Diddymu
     3. Diddymir y Rheoliadau canlynol mewn perthynas â Chymru -

    (a) Rheoliadau Digartrefedd 1996 [4];

    (b) Rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) 1997[5];

    (c) Rheoliad 3 o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) (Rhif 2) 1997 [6]



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [7].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mawrth 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Nid yw person sy'n ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 yn gymwys ar gyfer cymorth tai o dan Rhan VII o Ddeddf Tai 1996 (digartrefedd) onid yw mewn dosbarth a ragnodir mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 185)(2)). Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth o ran disgrifiadau eraill o bersonau sydd i'w trin at ddibenion Rhan VII fel personau o dramor nad ydynt yn gymwys ar gyfer cymorth tai (adran 185(3)).

O dan adran 194 o Ddeddf Tai 1996 caiff awdurdod tai lleol roi hysbysiad ei fod yn bwriadu peidio ag arfer ei b er i sicrhau llety o dan yr adran honno. Rhaid rhoi hysbysiad o'r fath ddim llai na'r cyfnod rhagnodedig cyn y diwrnod a bennir ynddo.

O dan adran 198 o Ddeddf Tai 1996 un o'r amodau dros gyfeirio achos digartrefedd i awdurdod arall yw bod y ceisydd wedi'i roi mewn llety yn ardal yr awdurdod y gwneir y cais iddo yn awr yn unol â chais blaenorol a gafodd ei wneud o fewn y cyfnod rhagnodedig i'r awdurdod arall hwnnw.

Mae Rheoliadau Digartrefedd (Lloegr) 2000 yn rhagnodi dosbarthiadau o bersonau at ddiben adran 185(2), yn gwneud darpariaeth ar gyfer disgrifiadau o bersonau at ddiben adran 185(3), yn rhagnodi'r cyfnod at ddiben adran 194 ac yn rhagnodi'r cyfnod at ddiben adran 198.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod y darpariaethau hynny yn Rheoliadau Digartrefedd (Lloegr) 2000 yn effeithiol yng Nghymru, ac mewn perthynas â Chymruyn diddymu Rheoliadau Digartrefedd 1996 a Rheoliadau a'u diwygiodd.


Notes:

[1] 1996. p.52back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2000/701back

[4] O.S. 1996/2754; diwygiwyd gan O.S. 1997/631 a O.S. 1997/2046.back

[5] O.S. 1997/631.back

[6] O.S. 1997/2046.back

[7] 1998 p.38back


English version



ISBN 0 11 090046 4


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 17 May 2000