Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1039 (Cy. 68)

      Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090042 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1039 (Cy. 68)

ARBED YNNI, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 5 Ebrill 2000 
  Yn dod i rym 6 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990[1], sydd bellach yn arferadwy yng Nghymru gan y Cynulliad Cenedlaethol[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn,

Diwygiadau i Reoliadau 1997
     3. Yn Rheoliad 5(1) o Rheoliadau 1997, yn lle "...not more than one...", rhowch "...one or more...".

    
4. Yn Rheoliad 6 o Reoliadau 1997 (Cyfrifo swm y grant) -

    (1) Yn lle Rheoliad 6 (1) (a), rhowch -

    (2) Yn lle Rheoliad 6 (1) (b), rhowch -



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywoxdraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Ebrill 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Cynllun ar gyfer rhoi grantiau tuag at gost gwaith neu gyngor i wella inswleiddiad thermol, neu i leihau neu atal gwastraff ynni fel arall mewn anheddau, yw'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref presennol ("y Cynllun").

Nodir y Cynllun yn Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref 1997 ("y prif Reoliadau"). Mae'r prif Reoliadau'n creu Asiantaethau Rhanbarthol i weinyddu'r cynllun, ac yn nodi pwy sy'n gymwys i gael grant. Mae'r prif Reoliadau hefyd yn rhagnodi'r math o waith a'r dibenion y gellir cymeradwyo grantiau ar eu cyfer. Darperir dull ar gyfer cyfrifo grantiau, a nodir yr uchafsymiau a all gael eu rhoi fel grantiau. Mae'r prif Reoliadau yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais am grantiau a'u cymeradwyo, ac ar gyfer trefnu gwneud y gwaith neu gyflenwi'r deunyddiau.

Cafodd y prif Reoliadau eu gwneud o dan Adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (fel y'i diwygiwyd gan Adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996). Mae Adran 15(1) yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud, neu drefnu gwneud, grantiau tuag at gost gwaith neu gyngor i wella inswleiddiad thermol neu i leihau neu atal gwastraff ynni fel arall mewn anheddau. Ni all unrhyw grantiau gael eu gwneud o dan Adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 ("Deddf 1990") ac eithrio yn unol â rheoliadau a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Mae rheoliad 3 yn newid y cyfyngiad ar y dibenion y gellir dyfarnu grant atynt o dan y prif Reoliadau o "...not more than one.." i "...one or more..." o'r dibenion sydd wedi'u nodi yn y prif Reoliadau.Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn darparu uchafsymiau newydd ar gyfer grantiau o dan y prif Reoliadau.


Notes:

[1] 1990 (p.27); diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back

[3] OS 1997/790.back

[4] 1998 (p.38).back


English version



ISBN 0 11 090042 1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 12 May 2000