Gorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090061 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 118 a 166(3) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999[1] ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo (Llety Awdurdodau Tai) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Llety awdurdodau tai 2. The classes of persons specified in Articles 3 and 4 of the Persons subject to Immigration Control (Housing Authority Accommodation and Homelessness) Order 2000[3] are specified for the purposes of Section 118(1) of the Immigration and Asylum Act 1999 in relation to Wales and expressions used in those Articles have the meaning given to them by Article 2 of that Order. Diddymiad 3. Mae Gorchymyn Llety Tai (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) (Diwygio) (Cymru) 1999[4] wedi'i ddiddymu ac mae'r gorchmynion a bennir ym mharagraffau (a), (b) ac (c) o Erthygl 10 o Orchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Ymfudo (Llety Awdurdodau Tai a Digartrefedd) 2000 wedi'u diddymu mewn perthynas â Chymru. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]. D. Elis Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 30 Mawrth 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 118 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 ("Deddf 1999") yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, na fydd tenantiaeth ar lety mewn ty sy'n cael ei ddarparu o dan Ran II o Ddeddf Tai 1985, heblaw llety sy'n cael ei ddyrannu o dan Ran VI o Ddeddf Tai 1996, na thrwydded i'w feddiannu, yn cael ei roi i berson sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo oni bai bod y person hwnnw yn perthyn i ddosbarth a bennir mewn gorchymyn a wneir, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu oni bai bod y denantiaeth, neu'r drwydded i feddiannu, yn cael ei roi yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 95 o Ddeddf 1999. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer pennu'r dosbarthiadau o bersonau a bennir at ddibenion adran 118 o Ddeddf 1999 mewn perthynas â Lloegr gan Orchymyn Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Ymfudo (Llety Awdurdodau Tai a Digartrefedd) 2000 at y dibenion hynny mewn perthynas â Chymru hefyd. Notes: [1] 1999 p. 33. Mae adrannau 118 a 119 yn ail-ddeddfu, gyda newidiadau, adran 9 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996 (p. 49) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Tai 1996 (p.52), Atodlen 16, paragraff 3 ac Atodlen 19, Rhannau VII ac VIII.back [2] Mewn perthynas ag adran 9 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996, gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 17 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30).back [4] O.S. 1999/3465 (Cy53).back
ISBN 0 11 090061 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 1 June 2000 |