Rheoliadau Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090049 9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16D, 17, 18(1) ac (1A) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1]: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) (Cymru) 1996[2]. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio'r prif Reoliadau 2. - (1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn. (2) Yn rheoliad 4 (cyfyngiadau ar arfer swyddogaethau gan Awdurdodau Iechyd) ar ôl paragraff (3A) mewnosodir y paragraff canlynol -
(1) In exercising the functions of the National Assembly for Wales under section 4 of the Act[3] a Health Authority in Wales may enter into an NHS contract for the provision of high security psychiatric services with the following providers only -
(b) an approved NHS trust
and may not arrange with any other person or body (including voluntary organisations) for that person or body to provide such services.
(b) in England, by the Secretary of State.".
(3) Bydd i'r diwygiadau i Atodlen 1 i'r prif Reoliadau a wnaed gan Reoliadau Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) 2000[6] effaith mewn perthynas â Chymru. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) 1996 drwy ddarparu i awdurdodau iechyd yng Nghymru arfer swyddogaeth y Cynulliad Cenedlaethol o ddarparu cyfleusterau ysbyty yn unol ag adran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r gwasanaethau perthnasol mewn perthynas â phersonau y gellir eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ac yr ydys o'r farn eu bod angen triniaeth o dan amodau o ddiogelwch mawr oherwydd eu tueddiadau peryglus, treisgar neu droseddol. Cyfyngir ar arfer y swyddogaeth o ddarparu gwasanaethau seiciatrig o ddiogelwch mawr gan y Rheoliadau hyn i gontractau NHS gydag Awdurdod Ysbyty Ashworth, Broadmoor neu Rampton neu ymddiriedolaeth NHS yng Nghymru a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu yn Lloegr a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Notes: [1] 1977 p.49. Amnewidiwyd adrannau 16D, 17 a 18(1) ac (1A) gan Ddeddf Iechyd 1999(p.8)("Deddf 1999"), adran 12. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 65(2) a chan Ddeddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan y darpariaethau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back [2] Diwygiwyd O.S.1996/708 gan O.S.1998/646, 1999/628, 1999/1902 a 2000/267.back [3] Amnewidir adran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 gan Ddeddf 1999, adran 41(1) sydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2000 (gweler O.S. 1999/2793).back [4] Gweler O.S. 1966/488 a 489 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/90.back [5] Mewnosodir paragraff 10(2) a (3) o Atodlen 2 i Ddeddf 1990 gan Ddeddf 1999, adran 41(3) sydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2000 (gweler 1999/2793).back
ISBN 0 11 090049 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 24 May 2000 |