Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Eithrio) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Eithrio) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090058 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(5) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Eithrio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig. Eithrio rhag y dyletswyddau yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 2. Ni fydd cynghorau cymuned sydd wedi cyllidebu ar gyfer gwariant refeniw gros nad yw'n fwy na £1,000,000 ar gyfer y naill neu'r llall o'r blynyddoedd ariannol a ddechreuodd ar 1 Ebrill 1998 neu 1 Ebrill 1999 yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau a osodir gan adrannau 3 i 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 mewn perthynas ag unrhyw un o'u swyddogaethau. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]. D. Elis Thomas Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol 22 Mawrth 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i wneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaol yn y ffordd y mae eu swyddogaethau yn cael eu harfer (gwerth gorau), i gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau ac i baratoi cynllun perfformiad gwerth gorau ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Mae adrannau 2(5) a 29(1) o'r Ddeddf yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, i eithrio awdurdodau penodedig, neu ddisgrifiadau penodedig o awdurdod, rhag y dyletswyddau hynny yngl n â swyddogaethau penodedig.Mae'r Gorchymyn hwn yn eithrio cynghorau cymuned sydd wedi cyllidebu ar gyfer gwariant refeniw gros nad yw'n fwy na £1,000,000 ar gyfer y naill neu'r llall o'r blynyddoedd ariannol a ddechreuodd ar 1 Ebrill 1998 neu 1 Ebrill 1999. Notes: [1] 1999 p.19.back
ISBN 0 11 090058 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 17 May 2000 |