Offerynnau Statudol 2000 Rhif 1025 (Cy. 61)

      Gorchymyn Treth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Treth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090040 5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.

Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffygion yn O.S. 1999/1522 ac fe'i cyflwynir yn ddi-dâl i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1025 (Cy. 61)

TRETH GYNGOR, CYMRU

Gorchymyn Treth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 31 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 4 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1], ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Treth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Anheddau sy'n cael eu trwsio neu'u newid
    
2. Yn erthygl 3 o Orchymyn Treth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992[3] yn lle Dosbarth A rhodder

    " Class A:


        (1) A dwelling which satisfies the requirement set out in paragraph (2) but which has not been such a dwelling for a continuous period of twelve months or more ending immediately before the day in question;

        (2) the requirement referred to in paragraph (1) is that the dwelling is vacant and -

      (a) requires or is undergoing major repair work to render it habitable, or

      (b) is undergoing structural alteration, or

      (c) has undergone either major repair work to render it habitable or structural alteration and fewer than six months have elapsed since the date on which the work was substantially completed and the dwelling has remained vacant continuously since that date;

        (3) for the purposes of paragraph (2) above "major repair work" includes structural repair work;".

Diddymu
     3. Diddymir Gorchymyn Treth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) (Rhif 2) 1999[4] mewn perthynas â Chymru.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Mawrth 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 4 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn ragnodi dosbarthiadau o anheddau nad oes unrhyw dreth gyngor yn daladwy ar eu cyfer. Mae Gorchymyn Treth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 yn rhagnodi'r dosbarthiadau hynny o anheddau.

Gydag effaith o 1 Ebrill 2000, mae'r Gorchymyn hwn, sy'n disodli O.S. 1999/1522 ac sy'n gymwys i Gymru'n unig, yn amnewid Dosbarth A newydd yn erthygl 3 o'r prif Orchymyn fel y cyfyngir yr esemptiad sy'n gymwys i annedd wag sy'n ddarostyngedig i waith trwsio sylweddol neu newid strwythurol i ddeuddeg mis fan bellaf.


Notes:

[1] 1992 p.14.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/558. Gwnaed y diwygiadau perthnasol gan O.S. 1993/150 ac O.S. 1999/1522.back

[4] O.S. 1999/1522.back

[5] 1998 p.38.back


English version



ISBN 0 11 090040 5


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 11 May 2000