Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090041 3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 8(1) ac 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 3 Ebrill 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig. Atebolrwydd Perchnogion i Dalu - ceiswyr lloches 2. Ar ôl y disgrifiad o Ddosbarth E yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) 1992[3] mewnosodwch y canlynol -
Class F a dwelling provided to an asylum seeker under, or under arrangements made under, section 95 of the Immigration and Asylum Act 1999[4]."
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau Treth Gyngor (Atebolrwydd Perchnogion i Dalu) 1992 yn rhagnodi dosbarthiadau o anheddau y mae'r perchennog, yn hytrach na'r preswylydd, yn atebol i dalu treth gyngor ar eu cyfer. O 3 Ebrill 2000 ymlaen bydd ceiswyr lloches, yng Nghymru, sy'n ddiymgeledd i bob golwg, yn cael llety ac angenrheidiau byw hanfodol eraill o dan adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999, ac ni fyddant yn gymwys i gael budd-daliadau gan gynnwys budd-dâl treth gyngor. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu mai perchennog y llety, yn hytrach na'r ceisydd lloches sy'n preswylio yno, fydd yn atebol i dalu treth gyngor ar gyfer unrhyw lety sy'n cael ei ddarparu o dan adran 95 gan ychwanegu dosbarth newydd o anheddau at y dosbarthiadau sydd wedi'u rhagnodi gan Reoliadau 1992. Notes: [1] 1992 p.14.back [2] Gweler erthygl 2 o, ac Atodlen 1 i, Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11 090041 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 12 May 2000 |