Offerynnau Statudol 2000 Rhif 992 (Cy. 52)

      Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090066 9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 992 (Cy. 52)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 17 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2].

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 1997" yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997[
3].

Diwygiad
     2. Yn lle Rheoliadau 40, 41 a 42 o Reoliadau 1997 rhoddir - 

         " 40. A credit arrangement which is a private finance transaction shall be excluded from section 49(2) and the initial cost and the cost at any time of the arrangement shall be nil.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mawrth 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ran IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ("y Ddeddf") ac maent yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) 1997 ("Rheoliadau 1997"). Mae Rheoliadau 1997 yn ymwneud â'r system cyllid cyfalaf ar gyfer yr awdurdodau lleol sy'n weithredol ers 1 Ebrill 1990.

O dan Ran IV o'r Ddeddf mae'n ofynnol bod gan yr awdurdodau lleol swm o ddarpariaeth gredyd ar gael pan fyddant yn gwneud neu'n amrywio trefniant credyd oni bai bod y trefniant credyd yn cael ei hepgor o'r gofyniad gan reoliadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi Rheoliad 40 newydd yn lle Rheoliadau 40, 41 a 42 o Reoliadau 1997 fel nad oes angen mwyach i awdurdod lleol ddarparu darpariaeth gredyd wrth wneud trefniant credyd sy'n drosglwyddiad cyllid preifat.


Notes:

[1] 1989 p.42.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/319.back

[4] 1998 p.38.back


English version



ISBN 0 11 090066 9


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 3 July 2000