Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090060 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 137(4AA) a (5) ac adran 137A(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru[2]. Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Terfynau Gwariant Dewisol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000. Terfynau gwariant 2. - (1) At ddibenion adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 pennir y swm o £5.00 fel y swm sy'n briodol ar gyfer prif gyngor neu gyngor cymuned yng Nghymru. (2) At ddibenion adran 137A(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 pennir y swm o £5000 fel yr isafswm perthnasol ar gyfer cymorth ariannol a ddarperir gan awdurdod lleol yng Nghymru. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol The Presiding Officer of the National Assembly 27 Mawrth 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn galluogi awdurdod lleol i dynnu gwariant at ddibenion penodol na fyddai wedi'i hawdurdodi fel arall ar yr amod nad yw'r gwariant hwnnw yn fwy na'r swm a geir drwy luosi swm penodedig â phoblogaeth berthnasol ardal yr awdurdod. Yn achos prif gyngor yng Nghymru, £3.80 yw'r swm hwnnw, neu unrhyw swm arall y gellir ei bennu drwy gyfrwng gorchymyn. Yn achos cyngor cymuned, £3.50 yw'r swm hwnnw neu unrhyw swm arall y gellir ei bennu drwy gyfrwng gorchymyn. Mae adran 137A o Ddeddf 1972 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol, sydd mewn unrhyw flwyddyn ariannol yn rhoi cymorth ariannol i fudiad gwirfoddol neu i gorff neu gronfa o fath penodedig, a chyfanswm y cymorth hwnnw yn hafal i, neu yn fwy na, £2000 neu unrhyw swm uwch y gellir ei bennu drwy gyfrwng gorchymyn ("yr isafswm perthnasol"), yn ei gwneud yn ofynnol i'r mudiad, y corff neu'r gronfa roi gwybod i'r awdurdod, fel un o amodau'r cymorth, i ba ddiben y mae wedi'i ddefnyddio. Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu'r swm a bennwyd at ddibenion adran 137(4)(a) o Ddeddf 1972 i £5.00 ar gyfer prif gynghorau a chynghorau cymuned yng Nghymru, a'r isafswm perthnasol at ddibenion adran 137A(1) o'r Ddeddf honno i £5000 ar gyfer yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Notes: [1] 1972 p.70. Mewnosodwyd adran 137(4AA) gan adran 36 a mewnosodwyd adran 137A gan adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11 090060 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 1 June 2000 |