Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Cymru) 2000, ISBN 0-11-090091-X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:-Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[2]. (3) Mae'r Rheoliadu hyn yn gymwys i Gymru'n unig. Diwygio rheoliad 1 o'r prif Reoliadau 2. Ym mharagraff (2) o reoliad 1 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn y diffiniad o "NHS sight test fee", yn lle'r swm "£40.33" amnewidier "£41.54" ac yn lle'r swm "£14.57" amnewidier "£15.01". Diwygio rheoliad 15 o'r prif Reoliadau 3. Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 15 o'r prif Reoliadau (cymhwyster - ailosod neu drwsio), ar ôl "regulation 8(2)" mewnosoder "(b)". Diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau 4. Yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)-
(b) ym mharagraff (3), yn lle "£10.80", amnewidier "£11.00".
Diwygio'r Atodlenni i'r prif Reoliadau
(3) Yn lle Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (gwerthoedd talebau - trwsio), amnewidier yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn ffurfio rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y prif Reoliadau"), sy'n darparu cynllun ar gyfer taliadau i'w gwneud gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth lechyd Gwladol, drwy system dalebau, tuag at y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bobl mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol. Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o "NHS sight test fee" yn rheoliad 1(2) o'r prif Reoliadau i adlewyrchu gwerthoedd y ddwy lefel o ffioedd am brofioon golwg y Gwasanaeth lechyd Gwladol sy'n daladwy i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym. Mae'r symiau hyn yn berthnasol i benderfynu cymhwyster i gael taleb at gostau prawf golwg, a phenderfynu ei gwerth adbrynu. Mae Rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 15 o'r prif Reoliadau i gynnwys pobl ifanc 16 i 18 oed, sy'n cael addysg amser-llawn, yng nghategorïau cleifion a all fod yn gymwys i gael taliadau ar gyfer trwsio neu ailosod teclynnau optegol. Mae Rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) i gynyddu gwerth taleb optegol a roddir tuag at y gost o ailosod lens gyffwrdd unigol, ac i gynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol. Mae Rheoliad 5(1) yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau i gynyddu gwerth y talebau a roddir tuag at y gost o gyflenwi ac ailosod sbectol a lensys cyffwrdd. Mae Rheoliad 5(2) yn diwygio Atodlen 2 i'r prif Reoliadau i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a theclynnau mewn categorïau arbennig. Mae Rheoliad 5(3) a'r Atodlen yn amnewid Atodlen 3 newydd i'r prif Reoliadau i gynyddu gwerth y talebau a roddir tuag at y gost o drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.0%, ar gyfartaledd, yw graddfa'r cynnydd. Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2). Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 13(2) a (3). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [2] O.S. 1997/818. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/2488, 1998/499 a 1999/609.back
ISBN 0-11-090091-X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 31 July 2000 |