Offerynnau Statudol 2000 Rhif 972 (Cy. 42)

      Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth (Diwygio) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090038 3. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 972 (Cy. 42)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) honno drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol  - 

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

Diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth 1997
    
2. Diwygir Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth 1997[3], i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru, yn unol â rheoliadau 3 i 7 o'r Rheoliadau hyn.

     3. Yn rheoliad 2 (dehongli) ym mharagraff (1)  - 

     4. Yn rheoliad 7 (trosglwyddo cwota wrth drosglwyddo tir)  - 

     5. Yn rheoliad 11 (trosglwyddo cwota heb drosglwyddo tir) - 

     6. Yn rheoliad 13 (trosglwyddo cwota dros dro)  - 

     7. Yn rheoliad 30 (pwerau swyddogion awdurdodedig)  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2000, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynhyrchion Llaeth 1997 (O.S. 1997/733) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, ar gyfer Cymru, newid i Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3950/92 (OJ Rhif L405, 31.12.92, t.1) (fel y'i diwygiwyd yn flaenorol) gan sefydlu ardoll ychwanegol yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth, sef newid a wnaed gan Erthygl 1(7) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1256/1999 (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.73). Mae Erthygl 6(1) yn caniatáu i'r Aelod-wladwriaethau bennu unrhyw ddyddiad yn y flwyddyn gwota o dan sylw, mewn perthynas â throsglwyddo cwota dros dro (sef heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr hyd yn hyn) a'r dyddiad hwnnw yw'r dyddiad olaf yr awdurdodir trosglwyddiadau o'r fath. Mae'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno 31 Mawrth yn ddyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno hysbysiad o drosglwyddiadau dros dro i'r Bwrdd Ymyrraeth) (rheoliad 6).

Yn sgil hyn, mae newidiadau penodol yn cael eu gwneud i'r dyddiadau pryd y mae'n ofynnol rhoi hysbysiadau penodol eraill etc. i'r Bwrdd Ymyrraeth (rheoliadau 4 a 5).

Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau hyn -

    (a) yn tynnu Ynysoedd Shetland o'r trefniadau penodol ar gyfer cwota llaeth sy'n gymwys yn ardal Ynysoedd yr Alban (rheoliad 3);

    (b) yn cynnwys yn y dosbarthiadau o bersonau y mae'n ofynnol iddynt roi cymorth rhesymol i swyddogion awdurdodedig, gynhyrchwyr, prynwyr, cyflogeion ac asiantau cynhyrchwyr neu brynwyr, cludwyr llaeth a phersonau sy'n ymgymryd â phrofion braster menyn mewn labordai ar gyfer prynwyr ac yn unioni'r rhain â'r tir ac adeiladau y gellir defnyddio pwêr myndediad i fynd i fewn iddynt (rheoliad 7).


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1997/733, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1093, 1998/2880.back

[4] OJ Rhif. L160, 26.6.1999, t.73.back

[5] 1998 p.38.back


English version



ISBN 0 11 090038 3


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 10 May 2000