Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090037 5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(1) o, a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 i, Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1], ac a freiniwyd ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio rheoliadau 2. - (1) Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989[3] yn unol â'r paragraffau canlynol. (2) Ym mharagraff (1A), ar ôl "1st April 1995", mewnosoder "or 1st April 2000". (3) Ym mharagraff (2A), yn is-baragraff (a), ar ôl "in the case of", mewnsoder "a defence hereditament,". (4) Ym mharagraff (3), ar ôl y diffiniad o "the appropriate rate", mewnsoder ""defence hereditament" means a hereditament which is occupied (or if unoccupied, owned) by the Secretary of State for Defence"; (5) Ym mharagraff (3), ym mharagraff (b) o'r diffiniad o "educational hereditament" -
(b) ar ôl "the Education Reform Act 1988", mewnosoder "("the 1988 Act")"; ac (c) yn is-baragraff (ii), yn lle "the 1992 Act", rhodder "the Further and Higher Education Act 1992 ("the 1992 Act")".
(6) Ym mharagraff (3), yn y diffiniad o "school", yn lle "section 114(1) of the 1944 Act", rhodder "section 4 of the 1996 Act". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae paragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn ei gwneud yn ofynnol i werth ardrethol hereditament annomestig gael ei ganfod drwy gyfeirio at y rhent yr amcangyfrifir y byddai'n rhesymol ei ddisgwyl wrth osod yr hereditament o flwyddyn i flwyddyn. Mae rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 yn darparu ar gyfer prisio drwy gyfeirio at gost dybiannol adeiladu hereditament ("sail y contractiwr"), lle nad oes dystiolaeth fwy uniongyrchol o werth rhent, ac yn pennu'r gyfradd ganrannol flynyddol sydd i'w chymhwyso at y gost adeiladu dybiannol. Mae paragraff (1A) o Reoliad 2 yn cymhwyso'r gyfradd benodedig at hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig a luniwyd ar 1 Ebrill 1995 ac mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y cymhwysiad hwnnw i hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig Cymru sydd i'w llunio ar 1 Ebrill 2000. Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu "defence hereditament" (fel y'i ddiffinnir) i'r mathau o hereditament y pennir ym mharagraff (2A) (b) o Reoliad 2 ac yn diwygio'r diffiniadau o "educational hereditament" a "school" yn sgil Deddf Addysg 1996. Notes: [1] 1988 p.41. Diwygiwyd paragraff 2(8) o Atodlen 6 gan baragraff 38(8) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Gweler adran 146(6) ar gyfer y diffiniad o "prescribed".back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1989/2303, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/544 ac O.S. 1994/3122.back
ISBN 0 11 090037 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 9 May 2000 |