Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090043 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ac a freiniwyd ynddo bellach[2]: 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. 2. 7.5 y cant fydd cyfradd ganrannol y gostyngiad a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 at ddibenion diffinio "r" yn adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. Dafydd Elis Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 13 Mawrth 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn darparu ar gyfer cyllid cyfalaf awdurdodau lleol. Mae adran 49(2) yn nodi fformwla ar gyfer penderfynu, at ddibenion Rhan IV, gwerth y gydnabyddiaeth sydd i'w rhoi gan awdurdod lleol o dan drefniant credyd mewn unrhyw flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn y daw'r trefniant i fodolaeth. Un o'r ffactorau y cyfeirir ato yn y fformwla yw cyfradd ganrannol y gostyngiad a ragnodir ar gyfer blwyddyn ariannol. Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi 7.5 y cant, sef 0.9 y cant yn llai na chyfradd y gostyngiad a ragnodwyd ar gyfer 1999/2000. Notes: [1] 1989 p.42.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11 090043 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 12 May 2000 |