Offerynnau Statudol 2000 Rhif 793 (Cy. 30)

      Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090052 9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 793 (Cy. 30)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 17 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 20 Mawrth 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1, 2(2) a 6A(1) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru[3]:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 20 Mawrth 2000.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn -

    ystyr "hysbysiad galw am dalu" ("demand notice") yw'r ystyr a briodolir i "demand notice" yn y prif Reoliadau;

Diwygiadau i'r prif Reoliadau
     3.  -      (1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 2 yn y nodyn â'r pennawd "Non-Domestic Rates" yn lle "Government" rhowch "National Assembly for Wales".

    (3) Ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 2 yn y nodyn â'r pennawd "Rateable Value" yn lle "1st April 1995" rhowch "1st April 2000" ac yn lle "1st April 1993" rhowch "1st April 1998".

    (4) Ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 2 yn y nodyn â'r pennawd "National Non-Domestic Rating Multiplier" yn lle "Government" rhowch "National Assembly for Wales".

    (5) Ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2 ar ôl y nodyn â'r pennawd "National Non-Domestic Rating Multiplier" mewnosodwch y canlynol -

    (6) Ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 2 yn lle'r nodyn â'r pennawd "Transitional Arrangements" rhowch y canlynol -

    (7) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 yn y nodyn â'r pennawd "Trethi Annomestig" yn lle "y Llywodraeth" rhowch "Gynulliad Cenedlaethol Cymru".

    (8) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 yn y nodyn â'r pennawd "Gwerth Trethiannol" yn lle "1 Ebrill 1995" rhowch "1 Ebrill 2000" ac yn lle "1 Ebrill 1993" rhowch "1 Ebrill 1998".

    (9) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 yn y nodyn â'r pennawd "Lluosydd Trethu Annomestig Cenedlaethol" yn lle "y Llywodraeth" rhowch "Gynulliad Cenedlaethol Cymru".

    (10) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 ar ôl y nodyn â'r pennawd "Lluosydd Trethu Annomestig Cenedlaethol" mewnosodwch y canlynol -

    (11) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 yn lle'r nodyn â'r pennawd "Trefniadau trosiannol" rhowch y canlynol -



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mawrth 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 yn darparu yngln â chynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi sy'n cael eu cyhoeddi gan awdurdodau bilio yng Nghymru a bod gwybodaeth yn yr iaith briodol yn cyd-fynd â'r hysbysiadau hynny.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r wybodaeth esboniadol y mae rhaid i awdurdodau bilio yng Nghymru ei darparu i adlewyrchu'r ffaith bod swyddogaethau perthnasol wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bod hereditamentau sy'n ddarostyngedig i ardrethi annomestig yn cael eu hailbrisio yn 2000.


Notes:

[1] 1988 p.41; gwnaed y diwygiadau perthnasol i Atodlen 9 gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, Atodlen 5, paragraff 44, a chan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, Atodlen 13, paragraff 87.back

[2] 1993 p.38.back

[3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] O.S. 1993/252, y gwnaed diwygiadau perthnasol iddo gan O.S. 1995/284.back

[5] 1998 p.38.back


English version



ISBN 0 11 090052 9


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 26 May 2000