Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000 © Crown Copyright 2000 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090058 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 76(4) a 140(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1], ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig. Diddymu 2. Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, diddymir drwy hyn Reoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) 1992[3], Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) 1993[4], Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio)1995[5], a Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) 1998[6]. Cyrff Penodedig 3. Mae'r cyrff canlynol yn rhai penodedig at ddibenion adran 76(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, sef:-
(b) Y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus Oedolion; (c) Biwro Cydwladol Llywodraeth Leol; (d) Corff Cydgysylltu yr Awdurdodau Lleol ar Fwyd a Safonau Masnach; (e) Public Private Partnerships Programme Limited; (f) Syniad; (g) yr Asiantaeth dros Welliant a Datblygiad Llywodraeth Leol; (h) Corff Cyflogwyr Llywodraeth Leol; ac (i) Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adrannau 78 a 79 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn darparu bod grant cynnal refeniw yn daladwy i unrhyw gorff sy'n darparu gwasanaethau i awdurdodau lleol ac sy'n gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn rheoliadau. Breiniwyd y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu cyrff i'r diben hwn. Diddymir a disodlir y Rheoliadau blaenorol gan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny. Daw Syniad (yr Asiantaeth dros Welliant, Datblygiad a Chyflogwyr yng Nghymru) yn gorff penodedig i ddibenion adran 78. Notes: [1] 1988 p.41. Diwygiwyd adran 76 gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.19). Atodlen 10, paragraff 8.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11 090058 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2000 | Prepared 1 June 2000 |