Offerynnau Statudol 2000 Rhif 717 (Cy. 24 )

      Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2000, ISBN 0 11 090097 7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 717 (Cy. 24 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 28 Chwefror 2000 
  Yn dod i rym 29 Chwefror 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9)[1], 33(4)[2], 43(7) a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 sydd bellach wedi'u breinio ynddo i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru[3].

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 29 Chwefror 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at adran â rhif yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (awdurdodau bilio)
    
2. Yn adran 33, hepgorer isadrannau (3C) a (3D)[4].

Cyfrifo anghenion cyllidebol (awdurdodau praeseptio pennaf)
     3.  - (1) Diwygir adran 43[5] fel a ganlyn.

    (2) Yn lle isadran (6C), gosoder -

        " (6C) In relation to a major precepting authority in Wales in this section and section 44 below "police grant" means the total amount of grant payable to that authority in accordance with the relevant police grant report.".

    (3) Yn lle isadran (6D) gosoder -

        " (6D) In subsection (6C) above "the relevant police grant report" means for a financial year commencing on or after 1st April 2000 the police grant report for that year approved by a resolution of the House of Commons pursuant to section 46 of the Police Act 1996[6]".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Chwefor 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Awdurdodau praeseptio yw'r rhai hynny sydd yn derbyn cyllid drwy'r dreth gyngor ond sydd ddim yn ei gasglu eu hunain. Mae awdurdod praeseptio yn pennu praesept ar gyfer y swm sydd ei angen i ariannu y rhan hwnnw o'i wariant sydd ddim yn cael ei gyllido gan grantiau llywodraeth ganol, adrethu annomestig wedi'i ail-ddosbarthu ac incwm arall. Mae hwn yn cael ei gasglu drwy'r dreth gyngor gan awdrudodau bilio sef y cynghorau sir a'r cynghorau bwrdeistrefi sirol yng Nghymru. Yng Nghymru, yr awdurdodau heddlu yw'r unig brif awdurdodau praeseptio.

Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") yn nodi yn eu trefn sut mae awdurdod bilio ac awdurdod praeseptio yn eu trefn i gyfrifo'u hanghenion cyllidebol am flwyddyn ariannol ac mae adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992 yn nodi yn eu trefn sut mae'r awdurdodau hyn i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i'r cyfrifiadau sy'n angenrheidiol o dan adran 33 o Ddeddf 1992 fel y maent yn gymwys i'r awdurdodau bilio yng Nghymru. Effaith y Rheoliadau yw dileu'r gofyniad (a ragnodwyd yn adran 33(3C)) y byddai'n ofynnol, pan fyddai cyllideb awdurdod o'r fath yn fwy na swm rhagnodedig, i'r awdurdod gynyddu swm sylfaenol ei dreth gyngor er mwyn cymryd i ystyriaeth ostyngiad dilynol yn y cymhorthdal ar gyfer budd-dâl y dreth gyngor a gâi ei dalu iddo.

Darparodd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 1999 na ddylai'r "police grant" fel y'i diffinnir yn adran 43(6A) o Ddeddf 1992 fod yn gymwys i'r awdurdodau praeseptio pennaf yng Nghymru, gan osod yn ei le ddiffiniad amgen a oedd yn gymwys i adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i'r diffiniad amgen drwy amnewid diffiniadau newydd yn adran 43(6C) a (6D). Mae i'r newidiadau hyn effaith ar 29 Chwefror 2000.


Notes:

[1] 1992 p.14; diwygiwyd adran 32(9) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19)back

[2] Diwygiwyd Adran 33 gan baragraff 5 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru)1994, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246), Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) (O.S. 1999/296).back

[3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] Mewnosodwyd Adrannau 33(3C) a 33(3D) gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/296).back

[5] Diwygiwyd Adran 43 gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/296).back

[6] 1996. p.16.back

[7] 1998 p.38.back


English version



ISBN 0 11 090097 7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 5 July 2000