Offerynnau Statudol 2000 Rhif 479 (Cy.20)

      Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned Diwygio (Cymru)2000


      © Crown Copyright 2000

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned Diwygio (Cymru)2000, ISBN 0 11 090030 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 479 (Cy.20)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned Diwygio (Cymru)2000

  Wedi'u gwneud 24 Chwefror 2000 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adrannau 126(4) 128(1) a pharagraff 2(a) o Atodlen 7 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a phob p er arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac a freinir bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2000.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 1996" yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996[
3].

    (3) I Gymru'n unig mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.

Diwygio Rheoliadau 1996
     2. Yn rheoliad 3 o Reoliadau 1996, ar ôl paragraff (2) mewnosodir y paragraff canlynol  - 

        " (2A) In the event of the term of office of every member of a Council whose district is situated in Wales expiring on the same date, the term of office of all members appointed in consequence thereof shall be settled in accordance with the same provisions as are applied by paragraph (2) above in relation to first appointments.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Chwefror 2000



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996 ("Rheoliadau 1996") drwy ddarparu y bydd rheoliad 3(2) o Reoliadau 1996 yn gymwys os bydd y cyfnodau y bydd pob aelod o Gyngor yn eu swyddi yn dod i ben ar yr un dyddiad. Bydd y sefyllfa hon yn codi ym mhob Cyngor yng Nghymru ar 31 Mawrth 2000.

Penderfynir ar y cyfnodau y bydd aelodau sydd wedi'u penodi i'r Cynghorau yn eu swyddi o ganlyniad i'r digwyddiad hwn fel petaent yn benodiadau newydd wrth sefydlu cyngor newydd. Oherwydd hyn, bydd cyfnodau rhai aelodau yn gorgyffwrdd â chyfnodau eraill fel a ddarperir gan reoliad 3(2).


Notes:

[1] 1977 c.49; section 126(4) was amended by the National Health Service and Community Care Act 1990 (c.19) ("the 1990 Act"), section 65(2); Section 128(1) as amended by section 26(2) (g) and (i) of the 1990 Act is cited for the definitions of "prescribed" and "regulations".back

[2] The functions of the Secretary of State for Wales under section 126(4) and paragraph 2 of Schedule 7 to the National Health Service Act 1977 were transferred to the National Assembly for Wales by the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (S.I. 1999/672).back

[3] S.I. 1996/640. Relevant amending instrument is 1997/2289.back

[4] 1998 c.38.back


English version



ISBN 0 11 090030 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2000
Prepared 23 March 2000