Rheoliadau Cymorth Trwsio Cartref (Estyn)(Cymru) 1999 © Crown Copyright 1999 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cymorth Trwsio Cartref (Estyn)(Cymru) 1999, ISBN 0 11 090015 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 79 (2) a (3) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1], a freiniwyd ynddo bellach[2], a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:Enwi, cychwyn a hyd a lled 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Trwsio Cartref (Estyn) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 17 Tachwedd 1999. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn dros Gymru'n unig. Estyn cymorth trwsio cartref 2. Estynnir argaeledd cymorth trwsio cartref drwy drin lwfans ceisio gwaith ar sail incwm[3] fel un o'r budd-daliadau a restrir yn is-adran (1)(e) o adran 77 (bod â hawl i gymorth trwsio cartref) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 Dafydd Elis Thomas Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol 16 Tachwedd 1999 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) O dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, caiff awdurdod tai lleol gynnig cymorth trwsio cartref ar ffurf naill ai grant neu ddeunydd ar gyfer gwneud gwaith trwsio, gwella neu addasu annedd. Er mwyn bod â hawl i gymorth trwsio cartref rhaid i awdurdod tai lleol gael ei fodloni fod yr amodau a nodir yn adran 77(1) o'r Ddeddf yn gymwys. Mae'r rhain yn cynnwys yr amod bod y ceisydd neu bartner y ceisydd yn cael budd-dâl a restrir yn is-adran (1) (e). Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i lwfans ceisio gwaith ar sail incwm gael ei drin fel budd-dâl o fewn yr is-adran honno. Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn dros Gymru'n unig. Notes: [1] 1996 p.53.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Gweler adran 1(4) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995 (p.18).back
ISBN 0 11 090015 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 1999 | Prepared 30 October 2001 |