Offerynnau Statudol 1999 Rhif 2935 (Cy.27)

      Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 1999


      © Crown Copyright 1999

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 1999, ISBN 0 11 090012 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


1999 Rhif 2935 (Cy.27)

TRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 1999

  Wedi'u gwneud 29 Hydref 1999 
  Yn dod i rym 31 Hydref 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 33(5) a (6), 34(4), 44(5) a (6), 45(4) a (5), 48(5) a (6), ac 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] ac a freiniwyd ynddo bellach[2], a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:

Enwi, cychwyn a chwmpas
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 1999 a deuant i rym ar 31 Hydref 1999.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygio'r Rheoliadau
    
2. Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995[3] fel a ganlyn.

    (1) Yn Rheoliad 4(3)(a), ar ôl y gair "dwelling", mewnosoder "which is listed in a valuation band other than valuation band A".

    (2) Yn Rheoliad 5(2), ar ôl y geiriau "exempt on that day", ychwaneger

      " and, in the case of valuation band A and for a financial year beginning on or after 1 April 2000, by deducting the number calculated by applying the formula-

    HH
    6
    where-
      HH is the authority's estimate of the number of dwellings listed in band A (excluding dwellings which are to be treated as listed in that band by virtue of the provisions of Regulation 4(3) where the person who is liable to pay council tax in respect of the dwelling is liable to pay a reduced amount pursuant to the Council Tax (Reductions for Disabilities) Regulations 1992[4]).

    "



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.[5]


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Hydref 1999



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995 ("y prif Reoliadau") yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo sylfaen treth gyngor awdurdod lleol. Defnyddir hyn at gyfrifo treth gyngor ac, yn ei hanfod, nifer yr anheddau o fewn ardal awdurdod lleol ac sy'n gyfwerth â band prisio D ydyw, gan gymryd i ystyriaeth, ymhlith pethau eraill, symiau gostyngol sy'n daladwy gan aelwydydd sy'n cynnwys person anabl yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 13 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau o ganlyniad i Reoliadau Treth Gyngor (Gostyngiadau am Anableddau) (Diwygio) 1999 sydd, o 1 Ebrill 2000 ymlaen, yn darparu y gall anheddau ym mand prisio A fod yn gymwys i ostyngiad anabledd am y tro cyntaf. Mae'r diwygiadau i'r prif Reoliadau yn sicrhau y bydd sylfaen y dreth gyngor i ardal yn cymryd i ystyriaeth effaith gostyngiadau anabledd mewn perthynas ag anheddau ym mand prisio A.


Notes:

[1] 1992 p.14.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1995/2561.back

[4] O.S. 1992/554, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/195 ac O.S. 1999/1004.back

[5] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 090012 X


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 1999
Prepared 30 October 2001