Offerynnau Statudol 1999 Rhif 2893 (Cy.26)

      Gorchymyn Addysg (Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwrnod Penodedig) 1999


      © Crown Copyright 1999

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Addysg (Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwrnod Penodedig) 1999, ISBN 0 11 090009 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


1999 Rhif 2893 (Cy.26)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwrnod Penodedig) 1999

  Wedi'i wneud 31 Awst 1999 
  Yn dod i rym 1 Medi 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad.[2]

Enwi
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwrnod Penodedig) 1999.

Diwrnod Penodedig
    
2. Pennir drwy hyn 1 Medi 1999 fel y dyddiad y daw "Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru"[3] a gyhoeddir yn unol ag adran 84 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ar 20 Awst 1999 i rym.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Awst 1999



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Adran 84 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi Cod Ymarfer yn cynnwys y canllawiau ymarferol y mae'n credu eu bod yn briodol, o ran cyflawni swyddogaeth dderbyn gan awdurdodau addysg yn ôl lleoliad gan awdurdodau addysg, cyrff llywodraethu ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a phaneli apelau derbyniadau.

Mae Adran 85 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cod Ymarfer ar Apelau Derbyniadau ddod i rym drwy Orchymyn.

Mae'r Cod Ymarfer yn gymwys yn bennaf i apelau derbyniadau ar gyfer y nifer a dderbynnir i ysgolion cynradd ac uwchradd o 2000/2001 ymlaen ac mae'n ymdrin â dau gategori ar wahân o apelau derbyn:

  • apelau gan rieni yn erbyn penderfyniad gan awdurdod derbyn ysgol i wrthod cynnig lle i'w plentyn yn yr ysgol o dan sylw; ac

  • apelau gan gyrff llywodraethu ysgolion cymunedol neu ysgolion gwirfoddol a reolir yn erbyn penderfyniad gan AALl i dderbyn plentyn i'r ysgol sydd gynt wedi'i wahardd yn barhaol o ddwy neu ragor o ysgolion.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Medi 1999 fel y diwrnod y daw Cod Ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Apelau Derbyniadau i rym. Mae Cod sy'n cynnwys canllawiau i awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ar eu cyfrifoldebau mewn perthynas ag apelau derbyniadau eisoes wedi'i gyhoeddi ar 20 Awst 1999.

Gellir cael copïau o'r ddau God o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Mae modd eu gweld hefyd ar y Rhyngrwyd yn www.cymru.gov.uk.


Notes:

[1] 1998 p.31.back

[2] rosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 85(5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] ISBN 0750423528. Dim ond yng Nghymru y mae'r Cod yn gymwys.back

[4] 1998 p.38.back



ISBN 0 11 090009 X


English version



 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 1999
Prepared 9 November 1999